Ionawr prysuraf erioed i adrannau brys ysbytai Cymru

Fis diwethaf oedd y mis Ionawr prysuraf erioed i adrannau brys yn ysbytai Cymru, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Fe wnaeth y targed amser o aros dim mwy na phedair awr ddisgyn eto, gan gyrraedd ei lefel isaf ers mis Mawrth 2016.

Ar draws y GIG yng Nghymru cafodd 78% o gleifion brys eu gweld o fewn pedair awr, ychydig yn is na'r un mis llynedd - y targed yw 95%.

Fe wnaeth dros 80,000 o gleifion ymweld ag adrannau brys ym mis Ionawr - cyfartaledd o 2,600 y dydd.

Ffliw

Roedd y nifer wnaeth dreulio dros 12 awr mewn adran frys - 5,111 - yn uwch nag unrhyw fis Ionawr blaenorol.

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans hefyd wynebu eu hail Ionawr mwyaf prysur erioed, gan gyrraedd 69.7% o alwadau 'coch' o fewn y targed o wyth munud.

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall: "Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a phartneriaid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyfnod y gaeaf, gan fuddsoddi 拢60m yn ychwanegol i ddarparu gofal brys a sicrhau fod gofal sydd wedi'i gynllunio yn gallu parhau.

"Er y pwysau ychwanegol, fe wnaeth nifer y bobl oedd yn gorfod aros dros 36 wythnos am driniaeth ostwng ddiwedd Rhagfyr, ac rydyn ni'n disgwyl gweld amseroedd aros yn gostwng hyd at ddiwedd Mawrth."

Mae'r ffliw wedi parhau'n broblem, gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud y byddai'n cael effaith ar ffigyrau adrannau brys yn ogystal ag absenoldebau staff o fewn y GIG.

"Ar hyn o bryd mae'r gyfradd ffliw yn uwch yn yr wythnosau diwethaf nag oedd o yn y cyfnodau brig yn y chwe blynedd diwethaf, felly 'dyn ni'n cael gaeaf prysur iawn gyda'r ffliw eleni," meddai Dr Richard Roberts, pennaeth rhaglen frechu afiechydon ataliadwy ICC.

"Bydd rhaid i ni weld sut mae'r ffigyrau'n gwneud dros y mis i fis a hanner nesaf, ond mae'n bosib y gwelwn ni fwy o achosion ffliw eleni nag unrhyw flwyddyn ers 2000."

Mae perfformiadau adrannau brys wedi amrywio rhwng ysbytai, gydag Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd - y mwyaf yng Nghymru - ac Ysbyty Treforys yn Abertawe yn gwella o'i gymharu 芒 2017.

Ysbyty Glan Clwyd (61.4% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr) ac Ysbyty Maelor Wrecsam (61.7%) oedd 芒'r perfformiad gwaethaf ar gyfer adrannau brys mawr.