'Angen rhagor o drafod' ar Brexit rhwng Cymru a'r DU

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud bod angen rhagor o drafodaethau er mwyn dod i gytundeb ar ddeddfwriaeth bwysig ynghylch Brexit.

Cyn y cyfarfod roedd gweinidogion San Steffan wedi dweud eu bod wedi gwneud "cynnig sylweddol" ond dywedodd gweinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford nad oedden nhw'n mynd "ddigon pell".

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns hefyd yn y cyfarfod, a mynnodd fod angen sicrhau'r "canlyniad iawn i fusnes" yn hytrach na "phlesio gwleidyddion bob pen i'r M4".

Ar 么l y cyfarfod dywedodd Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: "Fe wnaethon ni gymryd camau ymlaen, roedd pethau roedden ni'n gallu'u trafod. Ond aethon nhw ddim digon pell."

'Ildio cyfrifoldebau'

Pwrpas Mesur Ymadael yr UE yw trosglwyddo deddfau'r UE i ddeddfau'r DU er mwyn sicrhau nad oes bwlch cyfreithiol yn dilyn Brexit.

Byddai'r gwelliannau arfaethedig i'r mesur yn golygu bod pwerau'r UE yn trosglwyddo'n uniongyrchol o Frwsel i Gaerdydd, Belfast a Chaeredin yn y materion sydd wedi'u datganoli.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn cytuno gyda'r egwyddor, ond wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "fachu grym" wrth s么n am faterion sydd wedi eu datganoli.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mark Drakeford fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn y trafodaethau

Mae newidiadau i'r mesur gafodd eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi cael eu gwrthod gan ASau, ond mae Llywodraeth y DU wedi addo ers misoedd i ddiwygio'r Mesur Ymadael.

"Dydyn nhw ddim yn cwrdd 芒'r holl ofynion 'dyn ni'n credu sydd eu hangen i berswadio Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi'r bil," meddai Mr Drakeford wedi'r cyfarfod.

"Ond fe wnawn ni gyfarfod eto a gobeithio gallu dod i gytundeb cyn i welliannau gael eu gwneud yn Nh欧'r Arglwyddi."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Alun Cairns roedd y cyfarfod yn un "adeiladol"

Dywedodd fod angen i'r Cynulliad fod yn sicr fod unrhyw achos o "ildio cyfrifoldebau... am gyfnod dros dro" gael ei wneud gyda'u cydsyniad nhw.

Ychwanegodd: "Roedd yn gyfle i mi bwysleisio unwaith eto beth yw blaenoriaethau Cymru a sicrhau fod anghenion swyddi ac economi Cymru ar frig y rhestr pan mae'n dod at... safbwynt Llywodraeth y DU."

Dylanwad

Dywedodd Mr Cairns fod y cyfarfod yn un "positif, adeiladol", ac mai sicrhau'r fargen orau i fusnesau oedd y flaenoriaeth.

"Rydyn ni'n canolbwyntio ar sut 'dyn ni'n gwneud hynny wrth barchu'r setliad datganoli a hefyd cadw uniondeb marchnad gyffredin y DU," meddai.

Mynnodd Ysgrifennydd Cymru hefyd nad oedd llais Cymru yn nhrafodaethau cabinet Theresa May yn cael ei golli am nad oedd ef ei hun yn eistedd ar brif bwyllgor Brexit y llywodraeth.

"Yn y diwedd wrth gwrs bydd popeth yn mynd o flaen y cabinet cyfan i gael ei gymeradwyo," meddai.