Morlyn llanw Abertawe: Cytundeb pris gosod newydd?

Mae awgrym bod cwmni Tidal Lagoon Power (TLP) wedi cynnig cytundeb newydd i Lywodraeth y DU ar bris trydan o lag诺n arfaethedig Bae Abertawe.

Mae'n debyg mai'r pris fyddai'n rhaid talu am b诺er o'r cynllun yw'r prif reswm pam nad yw wedi ei gymeradwyo.

Dywedodd yr AS Richard Graham bod TLP nawr yn ceisio cael yr un telerau 芒'r hyn sydd wedi'i gynnig i bwerdy niwclear Hinkley Point C.

Ond dywedodd TLP wrth 麻豆官网首页入口 Cymru mai dyma "un o ganlyniadau posib y trafodaethau".

Morlyn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech os yw'r datblygwyr TLP yn cael eu ffordd.

Fe allai rhagor gael eu codi ar hyd arfordir gorllewinol y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd Casnewydd a Bae Colwyn.

Cytundeb 90 mlynedd

Argymhelliad adolygiad annibynnol ar ran Llywodraeth y DU oedd i brofi'r dechnoleg wrth godi'r morlyn cyntaf, cyn caniat谩u i ddatblygwyr eraill ymgeisio i godi cynlluniau pellach fel rhan o broses dendro gystadleuol.

Dyw gweinidogion heb ymateb hyd yma i gasgliadau'r adolygiad, gafodd eu cyhoeddi dros flwyddyn yn 么l.

Mae TLP wedi gofyn am gytundeb anarferol dros 90 mlynedd gyda'r llywodraeth, gyda phris cychwynnol o 拢123 yr awr megawat o drydan sy'n cael ei gynhyrchu yn y flwyddyn gyntaf - pris fyddai'n lleihau dros amser.

Mewn cymhariaeth, y pris diweddaraf ar gynnig i ddatblygiadau ynni o'r m么r newydd yw 拢57.50 yr awr megawat.

Ffynhonnell y llun, TLP

Mewn blog, mae Mr Graham, AS Ceidwadol Caerloyw lle mae pencadlys TLP, yn datgelu bod y cwmni erbyn hyn wedi newid eu telerau ac yn gofyn am yr un termau 芒'r rhai wnaeth y llywodraeth eu derbyn yn achos atomfa Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf.

"Os gymrwn ni'n un agwedd at forlynnoedd fe allwn ni helpu creu diwydiant newydd, lleihau'r gost i gwsmeriaid yn y pen draw a hybu'r economi yn ehangach," meddai.

Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fis diwethaf eu bod wedi cynnig "buddsoddiad sylweddol" er mwyn ceisio symud y cynllun yn ei flaen.

'Potensial enfawr'

Dywedodd llefarydd ar ran TLP fod cytundeb newydd ynghylch y pris yn "un o ganlyniadau posib y trafodaethau cyfredol rhwng llywodraethau'r DU a Chymru".

Fe gafodd datblygwyr Hinkley Point C, EDF Energy, gytundeb 35 mlynedd gyda phris gosod o 拢92.50 yr awr megawat o drydan sy'n cael ei gynhyrchu.

Dywedodd Mr Graham nad yw lag诺n Bae Abertawe yn ddrytach yn y tymor byr nag ynni niwclear bellach, "gyda photensial enfawr am well effeithlonrwydd yn y dyfodol".

Awgrymodd hefyd fod y Prif Weinidog Theresa May "wastad wedi teimlo bod mantais i hyn" i'r DU gyfan, gan annog y Trysorlys ac adran fusnes San Steffan i "fanteisio ar y cyfle".