麻豆官网首页入口

Rhybudd melyn am rew yn parhau i Gymru gyfan

  • Cyhoeddwyd
defaid yn Pen LlynFfynhonnell y llun, Robert Evan Thomas-Jones

Mae rhybudd melyn am rew yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan, wrth i drafferthion eira barhau.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd mae rhew yn debygol ym mhob rhan o'r wlad, gyda'r rhybudd mewn grym o 11:00 ddydd Sadwrn i 11:00 ddydd Sul.

Maen nhw'n rhybuddio y bydd amodau gyrru yn anoddach na'r arfer ac mae mwy o debygolrwydd o anafiadau os yw pobl yn llithro.

Mae'r rhagolygon hefyd yn awgrymu bod cyfnodau o eira neu eirlaw yn bosib mewn mannau.

Canslo digwyddiadau

Fe wnaeth rhagor o eira ddisgyn dros nos mewn sawl ardal, ac un adeg roedd tua 500 o bobl heb drydan.

Dywedodd D诺r Cymru eu bod nhw wedi cael bron i 8,000 o alwadau ers bore dydd Iau - dros bum gwaith y nifer maen nhw fel arfer yn ei gael mewn cyfnod o'r fath.

Mae ymchwiliad hefyd ar y gweill i honiadau fod ysbyty wedi codi t芒l ar nyrsys i aros mewn llety myfyrwyr yn ystod y tywydd garw diweddar.

Ffynhonnell y llun, Michael Hobbs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu un dyn o Abertridwr yn brysur iawn gyda'i gerflun eira

Cafodd nifer o gemau chwaraeon dros y penwythnos eu gohirio, gan gynnwys gemau rygbi'r Gleision, y Gweilch a'r Scarlets, gemau p锚l-droed Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam, a g锚m hoci ia Devils Caerdydd.

Cafodd nifer o ddigwyddiadau oedd wedi'u trefnu ar gyfer y penwythnos, gan gynnwys paredau Dydd G诺yl Dewi ac eisteddfodau cylch, hefyd eu gohirio.

Ffynhonnell y llun, Robert Evan Thomas-Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth llawer o eira ddisgyn ym Mhen Ll欧n dros nos

Mae Maes Awyr Caerdydd bellach ar agor yn dilyn deuddydd ble cafodd dwsinau o hediadau i mewn ac allan o'r maes awyr eu canslo.

Fe waneth Stagecoach a Cardiff Bus hefyd ailddechrau rhai gwasanaethau yn y de ddydd Sadwrn, wrth i amodau ar y ffyrdd ddechrau gwella.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llawer o ffyrdd, gan gynnwys dros Fynydd Hiraethog yn Sir Ddinbych, yn parhau i fod ar gau oherwydd yr eira

Ond mae ardaloedd eraill gan gynnwys Powys a Phen Ll欧n wedi cael rhagor o eira, sydd yn golygu bod llawer o'r ffyrdd yno yn parhau i fod ar gau.

Mae rhai o wasanaethau Trenau Arriva Cymru bellach wedi ailddechrau, ond mae rhan fwyaf y trenau yn y Cymoedd yn parhau i fod ar stop.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/麻豆官网首页入口
  • Am y diweddara' am y rhybudd tywydd, ewch i .

Daw'r rhybudd diweddaraf yn dilyn trafferthion mawr dros lawer o Gymru ddydd Gwener.

Roedd miloedd o gartrefi heb drydan am gyfnodau, ac fe gafodd hediadau, teithiau tr锚n a theithiau bws eu canslo.

Cafodd apwyntiadau ysbyty eu gohirio mewn sawl ardal hefyd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd mai yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, y syrthiodd y trwch eira mwyaf drwy'r DU dros nos Iau i mewn i fore Gwener - 51cm.

Parc Bryn Bach yn Nhredegar oedd yr ail le oeraf dwy'r DU dros nos ar 么l i'r tymheredd blymio i -5.5C.