Pleidlais ar amddiffyn pwerau'r Cynulliad wedi Brexit

Fe fydd ACau yn pleidleisio yn hwyrach ddydd Mawrth ynghylch cyflwyno ar frys mesur ar gyfer amddiffyn pwerau'r Cynulliad wedi Brexit.

Fe fyddai'r Mesur Parhad yn dod 芒 phwerau datganoledig sy'n cael eu gweithredu ar lefel yr UE ar hyn o bryd yn syth i'r Cynulliad.

Mae'r mesur wedi cael ei gynnig gan weinidogion yng Nghaerdydd yn dilyn ffrae gyda Llywodraeth y DU dros fil Brexit allweddol.

Mae gweinidogion y DU wedi addo y bydd y rhan fwyaf o bwerau mewn ardaloedd datganoledig yn llifo 'n么l o Frwsel i Gaerdydd - ond mae'r ddwy lywodraeth yn parhau i anghytuno.

Disgrifiad o'r llun, Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nad oedd yn gweld yr angen am y mesur

Bydd y bleidlais yn y Senedd yn gofyn i ACau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth arfaethedig, sy'n cael ei hadnabod fel Mesur Parhad, ar frys.

Mae hyn yn golygu y bydd yn mynd trwy'r Cynulliad yn gynt nag arfer ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y gallai'r mesur cael ei droi'n ddeddf erbyn 21 Mawrth.

Disgwylir y bydd y cynnig yn pasio gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid Cymru.

Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies nad oedd yn gweld yr angen am y mesur, ond bydd ei gr诺p yn y Cynulliad yn penderfynu safbwynt swyddogol y Ceidwadwyr fore Mawrth.

Fe fydd ACau UKIP yn cael pleidlais rydd ar y mater.

'Misoedd o drafodaethau'

Polisi yswiriant Llywodraeth Cymru yw'r gyfraith arfaethedig yn erbyn cynlluniau sydd wedi eu cynnwys ym Mesur Ymadael yr UE Llywodraeth y DU, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd.

Fel mae'n sefyll, fe fyddai'r Mesur Ymadael yn golygu bod pwerau mewn meysydd datganoledig fel amaethyddiaeth sydd ar hyn o bryd yn cael eu gweithredu ym Mrwsel yn llifo yn 么l i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd, Caeredin a Belfast.

Mae wedi arwain at fisoedd o drafodaethau rhwng gweinidogion llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban ynghylch newid y mesur.

Fe ddywedodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet David Lidington mewn araith yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnig "sylweddol" a fyddai'n gweld y mwyafrif helaeth o'r pwerau sy'n dychwelyd o'r UE yn mynd i'r gweinyddiaethau datganoledig.

Ond mae Llywodraethau Cymru a'r Alban wedi gwrthod y cynnig am beidio mynd yn ddigon pell.

Mae disgwyl i'r trafodaethau barhau ond mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ACau gytuno i gyflwyno'r Mesur Parhad fel y gellir ei droi'n gyfraith cyn bod ASau yn troi'r Mesur Ymadael yn gyfraith yn Senedd San Steffan.

Mae gweinidogion Yr Alban hefyd wedi cynnig fersiwn ei hun o Fil Parhad.

'Nid ymgais i atal Brexit'

Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford ac Ysgrifennydd Brexit Yr Alban, Mike Russell yn cwrdd 芒 Mr Lidington yn Llundain ddydd Iau, cyn trafodaethau pellach rhwng Theresa May a phrif weinidogion Cymru a'r Alban ar 14 Mawrth.

Wrth siarad cyn y ddadl yn y Cynulliad, fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Nid yw'r Bil Parhad yn ymgais i rwystro neu atal Brexit.

"Yn syml, ry'n ni'n ceisio diogelu ein setliad datganoli, gan sicrhau bod yna sicrwydd cyfreithiol pan fo'r DU yn gadael yr UE. Dyma beth mae busnesau Cymru yn galw amdano."

Disgrifiad o'r llun, Steffan Lewis, llefarydd Brexit Plaid Cymru, wnaeth gynnig Mesur Parhad y llynedd

Cynigiwyd y Mesur Parhad yn wreiddiol gan Steffan Lewis, llefarydd Brexit Plaid Cymru, y llynedd.

Cyn y ddadl, fe ddywedodd Plaid Cymru mai "dyma yw cyfle olaf y prif weinidog i sicrhau y bydd pwerau Cymru'n cael eu diogelu ar 么l Brexit".

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud fod Bil Parhad yn ddiangen ac y byddai'n well i Lywodraeth Cymru "ganolbwyntio ar ddod i gytundeb ar y Mesur Ymadael".