Carwyn Jones: 'Dynion pwerus' yn atal siarad am aflonyddu

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Carwyn Jones wedi dweud bod "ymddygiad ffiaidd" gan "ddynion pwerus" yn atal menywod rhag siarad am aflonyddu rhyw.

Mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, dywedodd y prif weinidog ei fod "wedi bod yn dyst i ymgyrchoedd a damcaniaethu cynllwyngar" yn erbyn "merched sy'n codi'u llais".

Ychwanegodd fod y math yna o ymddygiad "wedi'i yrru gan ddynion pwerus drwy gyfryngau traddodiadol" gan roi pwyslais ar "gynnwys sydd yn syfrdanu heb boeni am y goblygiadau".

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth fyddai'n "torri tir newydd" er mwyn sicrhau mai Cymru oedd "y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn ddynes".

Cyfryngau cymdeithasol

Wrth siarad yng Ngholeg St Hughes, Rhydychen - gafodd ei sefydlu gan ddynes ar gyfer menywod - dywedodd Mr Jones fod y drafodaeth fyd eang ar aflonyddu rhyw wedi cael "effaith sylweddol" ar wleidyddiaeth.

Dywedodd bod adlach "hyll" wedi bod yn erbyn y menywod hynny oedd wedi siarad am aflonyddu.

"Dwi wedi bod yn dyst i ymgyrchoedd a damcaniaethu cynllwyngar, beio dioddefwyr a thriniaeth afiach tuag at ferched sy'n codi'u llais," meddai.

"Mae'r ymddygiad yma, fel erioed, wedi'i yrru gan ddynion pwerus drwy gyfryngau traddodiadol, cynnwys sydd yn syfrdanu heb boeni am y goblygiadau."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Carwyn Jones ei fod am sicrhau mai Cymru oedd "y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn ddynes"

Ychwanegodd: "Mae'n waeth eto gyda'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol, ble mae'n ymddangos nad oes rheolau o gwbl.

"Dyw bwlis ddim yn wynebu cyfiawnder, ac ar o leiaf un achlysur dwi'n ymwybodol ohono, fe wnaeth aflonyddu oedd yn deillio o sarhau ar-lein ymestyn i aflonyddu dynes wnaeth ddewis godi'i llais."

Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn gweithio gyda'r elusen cydraddoldeb, Chwarae Teg i lunio deddfau newydd er mwyn sicrhau mai Cymru oedd "y lle saffaf yn Ewrop i fod yn ddynes".

Fe fyddan nhw'n trafod materion gan gynnwys gwneud ystyriaethau rhyw yn ganolog i benderfyniadau, sicrhau cydbwysedd rhyw gydag apwyntiadau cyhoeddus, a gweithio gyda chynghorau i ddod o hyd i ymateb cynaliadwy i dlodi mislif.