Lluniau: Eisteddfod Ryng-golegol 2018

Wedi'r holl gystadlu a'r cyfrif canlyniadau, Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol 2018 ac un o fyfyrwyr Bangor, Osian Owen, oedd enillydd y Gadair a'r Goron.

Mae'r steddfod yn un o uchafbwynt cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymraeg Cymru ac roedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Llanbedr Pont Steffan eleni gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dyma luniau'r ffotograffydd Aled Llywelyn o'r penwythnos:

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Bodiau fyny i'r Steddfod Rhyng-gol gan un o fyfyrwyr Bangor

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na dipyn o Roc a R么l ar benwythnos y Rhyng-gol...

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, ond hefyd mae yna ganu...

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, ... a chymeradwyo

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, ... a pherfformio

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, ... a mwynhau

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, ... a gwobrwyo. O'r chwith i'r dde: Nia Haf, Bangor, enillydd y Fedal Ddrama; Alistair Mahoney, Bangor, enillydd Tlws y Cerddor a Non Jones, Aberystwyth, enillydd y Fedal Gelf

Ffynhonnell y llun, c

Disgrifiad o'r llun, Llongyfarchiadau i Osian Owen, enillydd y Gadair a'r Goron. Daeth yn agos i 150 o ddarnau gwaith cartref eleni.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Coreograffi difyr gan fyfyrwyr Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Marc Griffiths - Marci G - oedd yn arwain yr Eisteddfod gyda Lisa Angharad

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd penwythnos yr Eisteddfod gyda thwrnameint chwaraeon ar ddydd Gwener 9 Mawrth. Prifysgol Aberystwyth oedd yr enillwyr

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Mae penwythnos y Rhyng-gol yn gyfe i fyfyrwyr o wahanol brifysgolion Cymru gymysgu

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Ond mae ennill yn brofiad da hefyd!

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Myfyrwyr Bangor wrth ei boddau. Enillwyr yr Eisteddfod a chystadleuaeth y c么r hefyd

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Y darian fydd yn mynd n么l i Fangor yn 2018

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Disgrifiad o'r llun, Yr uchafbwynt i nifer - Gig Rhyng-gol 2018 gyda Y Cledrau, Fleur De Lys, Gwilym a DJ Garmon