Morlyn Abertawe: Llywodraeth y DU 'ddim am gau'r drws'

Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw eisiau "cau'r drws" ar gynllun morlyn Bae Abertawe.

Dywedodd Greg Clark fod trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio gwneud y cynllun yn un fforddiadwy.

Wrth ateb cwestiynau yn Nh欧'r Cyffredin, ychwanegodd fod gan weinidogion gyfrifoldeb i leihau'r effaith y byddai'n ei gael ar filiau cwsmeriaid.

Fe wnaeth adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth argymell y llynedd y dylai'r morlyn llanw gael ei gymeradwyo.

'Heriau go iawn'

Fis diwethaf, daeth awgrym fod y cwmni y tu 么l i'r cynllun, Tidal Lagoon Power (TLP), wedi cynnig cytundeb newydd i Lywodraeth y DU ar bris trydan o'r lag诺n arfaethedig.

Morlyn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech os yw'r datblygwyr TLP yn cael eu ffordd.

Fe allai rhagor gael eu codi ar hyd arfordir gorllewinol y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd Casnewydd a Bae Colwyn.

Disgrifiad o'r llun, Bwriad TLP yw adeiladu pum morlyn arall os yw'r un yn Abertawe yn llwyddiannus

"Roedd y cynnig yma o Abertawe yn llawer drytach, dros ddwywaith yn ddrytach na phwerdy niwclear Hinkley er enghraifft," meddai Mr Clark wrth ASau ddydd Mawrth.

"Ond rydyn ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda'n partneriaid ni yn Llywodraeth Cymru.

"Dwi ddim eisiau cau'r drws ar rywbeth os oes ffordd o ganfod ffordd i'w gyfiawnhau fel rhywbeth fydd yn fforddiadwy i gwsmeriaid."

Ychwanegodd Mr Clark fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cydnabod yr "heriau go iawn" oedd yn wynebu'r cynllun yn Abertawe.

"Fe ysgrifennodd y prif weinidog ata i ddoe yn cydnabod, fel roedd e'n ei ddweud, yr heriau go iawn o ystyried cynnig gyda thechnoleg oedd heb ei brofi, gyda chostau cyfalaf uchel a chryn dipyn o ansicrwydd," meddai.

"Dyna pam dwi'n meddwl mai'r ffordd orau yw edrych ar yr holl bosibiliadau, i gydnabod y rhwystrau.

"Dyna beth dwi wedi ymrwymo i'w wneud gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran TLP: "Ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhannu'r costau ar gyfer dechrau'r cynllun er mwyn cael y sector ar ei draed, fe fyddech chi'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gallu edrych tuag at strwythur y fargen sydd nawr yn bosib."