麻豆官网首页入口

Llety Cymraeg Abertawe yn 'fanteisiol' i ddenu myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
PreseliFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Neuadd Preseli ar gampws Singleton yn gartref newydd i fyfyrwyr Cymraeg Abertawe

Mae penderfyniad Prifysgol Abertawe i greu llety i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn "fanteisiol" i ddenu mwy o fyfyrwyr Cymraeg i'r ddinas, yn 么l y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae'r brifysgol yn dweud y bydd ystafelloedd yn cael eu darparu o fis Medi 2018, yn Neuadd Preseli ar gampws Parc Singleton ac yn Neuadd Emlyn ar gampws y Bae.

I ddechrau, bydd un o loriau Neuadd Preseli, sy'n cynnwys 25 o ystafelloedd, yn cael ei ddarparu ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.

Y gobaith yw llenwi ail lawr Cymraeg yn 2019, a llogi holl ystafelloedd Preseli i fyfyrwyr Cymraeg maes o law.

'Galw ers tro'

Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth Cymru Fyw: "Rydym yn croesawu'r newyddion yma ac yn ymwybodol bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser yngl欧n 芒 hyn.

"Mae'r datblygiad yn fanteisiol iawn ar gyfer denu mwy o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i Brifysgol Abertawe."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neuadd Emlyn am gampws y Bae ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Undeb Myfyrwyr Abertawe wedi croesawu'r datblygiad gan ddweud bod "galw ers tro" am neuaddau o'r fath.

Un fu'n ymgyrchu dros y neuaddau ydy swyddog iaith Gymraeg yr undeb, Tomos Watson, a ddywedodd y byddai'r neuaddau'n "rhoi cyfle i Gymry Cymraeg fyw yng nghwmni ei gilydd" a bod y brifysgol "nid yn unig wedi gwrando arnom, ond wedi trefnu dwy i ni".

"Edrychwn ymlaen yn fawr nawr at groesawu preswylwyr newydd i'r neuaddau hyn ym mis Medi ac at weld y gymuned Gymraeg yma yn datblygu ymhellach."

'Datblygiad positif'

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr Cymraeg yn medru gwneud cais i aros yn Neuadd Penmaen ar gampws Singleton.

Bydd y trefniant anffurfiol yma yn dod i ben gyda myfyrwyr Cymraeg yn cael y dewis i wneud cais i aros yn Neuadd Preseli neu Neuadd Emlyn.

186 o ystafelloedd sydd gan Neuadd Preseli, tra bod Neuadd Emlyn yn rhan o ddatblygiad o fflatiau myfyrwyr ar gampws newydd y Bae.

Dywedodd cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn y brifysgol, Gwenno Ffrancon, bod y newid yn ddatblygiad positif ac yn help i ddenu niferoedd uwch o fyfyrwyr Cymraeg i Abertawe.

"Y gobaith yw cael un o'r lloriau yn Neuadd Preseli yn llawr Cymraeg, gydag ail lawr y flwyddyn nesaf.

"Mae'r brifysgol wedi gwrando ar y Gym Gym [cymdeithas Gymraeg y myfyrwyr] ac wedi cydnabod bod yna alw am lety Cymraeg."

Os yw galw gan fyfyrwyr am lety mewn neuadd Gymraeg yn parhau i ddatblygu, fe allai holl loriau Neuadd Preseli gael eu llenwi gan fyfyrwyr Cymraeg maes o law.