Ysgrifennydd yn gwrthod cyhoeddi adroddiad Carl Sargeant

Mae pennaeth y gwasanaeth sifil wedi gwrthod cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau.

Dywedodd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Sharon Morgan y byddai cyhoeddi'r adroddiad yn cael effaith ar ymchwiliadau yn y dyfodol.

Cafodd cais i gyhoeddi'r adroddiad ei wrthod er gwaethaf pleidlais yn y Cynulliad yn galw am ryddhau fersiwn wedi ei olygu.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn siomedig tu hwnt 芒'r penderfyniad.

'Esgusodion'

Roedd yr ymchwiliad i ryddhau'r wybodaeth yn un o dri gafodd eu gorchymyn wedi diswyddiad a marwolaeth Mr Sargeant.

Ei gasgliad oedd nad oedd tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth o flaen llaw am ad-drefnu'r cabinet a diswyddiad Mr Sargeant yn answyddogol.

Ond fe gafodd y casgliad ei gwestiynu gan y Ceidwadwyr, oedd yn galw am ryddhau fersiwn o'r adroddiad wedi ei olygu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Andrew RT Davies wedi dweud bod penderfyniad yr ysgrifennydd parhaol yn "annerbyniol"

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gofyn i Ms Morgan roi ystyriaeth bellach i ryddhau'r adroddiad.

Ond dywedodd Ms Morgan: "Nid wyf yn credu ei fod yn briodol i ryddhau'r adroddiad, naill ai yn llawn neu ar ffurf wedi ei addasu, oherwydd yr oblygiadau i ymchwiliadau yn y dyfodol."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae hyn yn annerbyniol ac yn siomedig tu hwnt.

"Roedd dymuniad y Cynulliad Cenedlaethol yn glir ac mae'r esgusodion am beidio cyhoeddi'r adroddiad yn wan ar y gorau..."

"Yr hira' mae hyn yn parhau yna y mwyaf o ddifrod sy'n cael ei wneud i Lywodraeth Cymru.

"Dylid peidio atal ein prosesau democrataidd fel hyn yn enwedig pan fo materion o bwys cyhoeddus yn y fantol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am wneud sylw.