Sgwennu mewn iaith lafar. Ergyd i Gymraeg safonol?

"Nawr te' ma' trafod'eth ddifyr 'da ni heddi' ar ddefnyddio iaith lafar ar y we ac mewn print".

Gan ddefnyddio ei acen Gwm Tawe gyfoethog dyna sut y dechreuodd Garry Owen gyflwyno un o bynciau llosg Taro'r Post, 22 Mawrth ar Radio Cymru .

Roedd trafod sgwennu (neu ydy 'ysgrifennu' yn fwy safonol?) yn amserol iawn gan y bydd papur newydd Y Cymro, ar ei newydd wedd, yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yfory, 23 Mawrth.

Awgrymodd Wyn Williams, aelod o d卯m golygyddol Cyfeillion y Cymro, y bydd nifer o'r cyfranwyr yn defnyddio arddull mwy llafar yn eu herthyglau.

Bydd yna o leiaf un llinyn cyswllt rhwng Y Cymro newydd a'r hen wythnosolyn - colofn Lyn Ebenezer. Dechreuodd Lyn weithio i'r papur yn Aberystwyth hanner canrif yn 么l.

"Dyw iaith ddim yn sefyll yn ei hunfan. Rwy' wedi sylwi ar hynny dros y blynyddoedd. Mae rhai geiriau yn cael eu gwrthod ac eraill yn cael eu derbyn. Beth sy'n bwysig yw bod be' dwi'n sgwennu yn ddealladwy ac yn gywir" eglurodd Lyn ar Taro'r Post.

"Mae tafodiaith yn iawn yn ei lle. Ond mae angen ffrwyno 'chydig ar eirie tafodieithol er mwyn i ddarllenwyr tu hwnt i Bonrhydfendigaid ddeall yr hyn dwi wedi ei sgwennu."

Dywedodd Owain Schiavone o gwmni cyhoeddi Golwg bod yna wahaniaeth mawr yn arddull ieithyddol Cylchgrawn Golwg ac ar wasanaeth newyddion .

"Mae copi yn cael ei brawf ddarllen yn fanwl a thrylwyr cyn bydd y cylchgrawn yn cael ei gyhoeddi. Cyflymder yw'r flaenoriaeth efo'r gwasanaeth newyddion ar y we, felly mae 'na wahaniaethau yn yr ieithwedd ac arddull.

"Defnyddio'r iaith ydy'r peth pwysig. Mae'n braf gweld pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol ar y cyfryngau cymdeithasol heb orfod poeni am reolau haearnaidd."

Disgrifiad o'r llun, Mae arddull sgwennu Golwg360 yn fwy llafar na iaith Cylchgrawn Golwg meddai Owain Schiavone

Beth yw eich barn chi? Ydy sgwennu mewn iaith lafar yn ergyd i Gymraeg safonol neu'n help i ddenu darllenwyr newydd? Anfonwch eich sylwadau atom:

Cyfeiriad e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk

Twitter:

Bydd Y Cymro ar werth yn eich siopau lleol ar ddydd Gwener, 23 Mawrth.

Taro'r Post, Dydd Llun-Gwener, 13:00, 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.