Leanne Wood: 'Brwydr am ddemocratiaeth' yn sgil Brexit

  • Awdur, Aled ap Dafydd
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae Cymru'n wynebu brwydr am ddemocratiaeth o ganlyniad i Brexit, meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Cyn ei haraith yng nghynhadledd wanwyn y blaid, addawodd i "godi cenedl newydd" wrth i Brexit nes谩u ar y gorwel.

Dywedodd Ms Wood fod Llywodraeth y DU yn "cipio pwerau" yn ystod y broses Brexit.

Yn ei haraith yn Llangollen yn ddiweddarach, mae disgwyl iddi ddweud bod "dim llawer o bynciau sy'n fwy canolog i Blaid Cymru nac adeiladu ein cenedl".

'Cymryd rheolaeth'

"Rydym eisiau i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, oherwydd yr ydym ni'n credu mai'r bobl yna sy'n gwybod orau beth sydd er lles eu gwlad eu hunain.

"Egwyddor hollbwysig i ni wrth i broses Brexit ddatblygu yw bod yn rhaid i bwerau dros feysydd datganoledig ddychwelyd i Gymru.

"Ni ddylid eu cipio gan San Steffan o gwbl. Dyna mae cymryd rheolaeth yn 么l yn ei olygu i Gymru."

Yn ystod y dydd mae disgwyl i un o aelodau seneddol Plaid Cymru ddweud fod y blaid mewn peryg o fynd i ebargofiant os ydy hi'n yn camu i'r chwith - ac mai ennill y tir canol ydi'r nod.

Wrth annerch y gynhadledd wanwyn mae disgwyl i AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards ofyn i aelodau'r blaid i "beidio ymateb i sialensau etholiadol maen nhw yn wynebu gan Llafur Corbyn, drwy selio ei strategaeth wleidyddol ar gymhlethdodau theori sosialaidd."

Mae'r arweinydd Leanne Wood yn cael ei gweld gan lawer fel ffigwr asgell chwith o'r blaid.

Ychwanegodd Mr Edwards y dylai Plaid Cymru "anelu at fod yn y canol" ac nad oedd hyn yn golygu "cefnu ar egwyddorion sylfaenol".

Pan ofynnwyd i Mr Edwards am ei sylwadau, dywedodd mai "cyngor caredig" oedd yr hyn oedd yn ei ddweud, a dywedodd nad oedd yn ymosodiad ar Leanne Wood.

Disgrifiad o'r llun, Jonathan Edwards yw AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Mae Neil McEvoy wedi ei wahardd am 18 mis yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad yng nghynhadledd wanwyn 2017.

Dywedodd Ms Wood nad yw materion ymwneud 芒 disgyblaeth yn broblem i Blaid Cymru yn unig.

Dywedodd Ms Wood: "Mae'n rhaid i bobl gydymffurfio 芒'r rheolau a osodir gan aelodau'r blaid, mae hynny yn wir i bawb.

"Mae gan bob plaid broblemau, nid oes gennym systemau ar waith i ddelio 芒 phethau sy'n dod i'r amlwg."

'Lle tywyll'

Deallir na fydd arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio'n uniongyrchol at farwolaeth y cyn-weinidog Llafur, Carl Sargeant yn ei haraith, ond dywedodd Ms Wood fod gwleidyddiaeth mewn "lle tywyll".

Dywedodd hi: "Byddaf yn s么n am yr angen i wleidyddiaeth fod yn fwy positif, yn seiliedig ar obaith.

"Mae gormod o wleidyddiaeth yn y DU a'r byd yn dywyll ac yn anobeithiol; mae angen i ni fod yn fwy cadarnhaol. Rhaid inni ddod o hyd i obaith."

Gwyliwch gynhadledd wanwyn Plaid Cymru 2018, yn fyw o Langollen, rhwng 10:00 a 15:30 ar 23 a 24 Mawrth.