麻豆官网首页入口

Cynghorwyr yn beirniadu cynlluniau i'w newid

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Alun Davies AC gyhoeddi cynlluniau i gwtogi nifer cynghorau Cymru gyfanswm o 10

Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanethau Cyhoeddus Cymru wedi dweud wrth arweinwyr cynghorau sir os na fyddent nhw'n derbyn newid i lywodraeth leol yng Nghymru, "byddan nhw'n cael eu siapio gan y newid."

Ond mewn cyfarfod ffyrnig o'r cyngor a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddydd Gwener, fe wnaeth eu harweinydd, a chynghorydd Llafur, Debbie Wilcox gyhuddo Mr Davies o ailgylchu cynlluniau Llywodraeth Cymru i uno'r cynghorau.

Roedd cynghorwyr o bob plaid ar eu traed yn cymeradwyo sylwadau Ms Wilcox pan ddywedodd hi fod cynghorau wedi "gwneud yr holl waith caled ar doriadau yng Nghymru" yn ystod wyth mlynedd o lymder.

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Alun Davies AC gyhoeddi cynlluniau i gwtogi nifer cynghorau Cymru i gyfanswm o 10.

Cyn iddo gwrdd 芒 chynrychiolwyr awdurdodau lleol Cymru, fe wnaeth Mr Davies ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cydweithio ar lefel rhanbarthol.

'Gwneud teledu da'

Wrth ymateb i sylwadau Ms Wilcox, dywedodd Alun Davies fod dadl o'r fath yn "gwneud teledu da, ond nid yn beth da i wleidyddiaeth".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Debbie Wilcox bod cynghorau wedi "gwneud yr holl waith caled" wrth arbed arian yng Nghymru

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn feirniadu cynlluniau'r llywodraeth i geisio uno cynghorau eto.

"Mae wedi bod yn gymysgedd o Fawlty Towers, Some mothers do 'ave' em ac Yes Minister," meddai Mr Pritchard

Fe wnaeth Mr Siencyn awgrymu fod Mr Davies wedi "derbyn y neges" gan arweinwyr nad oedd llawer o gefnogaeth i'w argymhellion.

Fe wnaeth Mr Davies gydnabod gyda gwen ei fod cael y neges "yn glir iawn".

'Croesawu trafodaeth'

Wedi'r cyfarfod dywedodd Mr Davies: "Fe wnaeth cynghorwyr fynegi eu hunain yn gadarn, a dyna fydden i wedi disgwyl yn y cyfnod yma o drafod.

"Fe ofynnais i am drafodaeth, ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod.

"Roeddwn i'n falch fod y Cynghorydd Debbie Wilcox o CLlLC wedi cydnabod nad yw 22 o gynghorau yn gynaliadwy ac yn fodlon derbyn fy her i gynnig cynlluniau eraill i fynd 芒 llywodraeth leol ymlaen os nad yw CLlLC yn derbyn y dewisiadau yn y papur gwyrdd.

"Rwy'n rhannu brwdfrydedd y cynghorwyr i sicrhau fod pobl yn derbyn y gwasanaethau y maen nhw'u hangen. Nawr rhaid i ni drafod y ffordd orau o'r darparu."