Alun Davies: 'Angen i siroedd weithio'n rhanbarthol'

Cyn iddo gwrdd 芒 chynrychiolwyr awdurdodau lleol Cymru, mae Alun Davies wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cydweithio ar lefel rhanbarthol.

Mewn llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd Mr Davies, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus, fod datganiad a wnaeth yn gynharach yr wythnos hon yn "cadarnhau yn ddi-os fod gweithio rhanbarthol yn parhau yn ganolog i'n gweledigaeth".

Yn ddiweddar, fe wnaeth Mr Davies lansio papur ymgynghorol oedd yn dweud bod y model presennol o 22 o gynghorau yn anghynaladwy, ac nad oedd digon o gynnydd wedi ei weld mewn cydweithio ar lefel ranbarthol.

Mae Mr Davies yn awgrymu model o 10 o gynghorau sir, ac mae'n cynnig tair ffordd bosib o gyrraedd sefyllfa o'r fath.

Ond ni wnaeth yr ysgrifennydd s么n o gwbl am orfodi cynghorau i uno.

Llynedd dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford, oedd yn arfer bod yn gyfrifol am awdurdodau lleol, y gallai'r 22 awdurdod lleol gael eu cadw cyn belled 芒'u bod nhw'n cydweithio'n agosach.

Daeth hynny ar 么l i'r llywodraeth Lafur flaenorol benderfynu gollwng eu cynlluniau i orfodi'r 22 cyngor i uno er mwyn ffurfio wyth neu naw awdurdod.