'Angen i Plaid fod yn barod i weithio gyda'r Ceidwadwyr'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Liz Saville Roberts fod yn rhaid i Plaid drio rhywbeth newydd

Fe ddylai Plaid Cymru fod yn barod i weithio gyda'r Ceidwadwyr yn 么l Arweinydd Seneddol y blaid.

Dywedodd Liz Saville Roberts wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod yn rhaid i Plaid drio rhywbeth newydd, neu ddioddef "canlyniadau does neb yn eu hoffi".

Ychwanegodd Ms Saville Roberts: "Mae'n rhaid i ni edrych ar wahanol ffyrdd o weithio, rydym wedi bod yn gwneud yr un peth yn yr un hen ffyrdd, ac yn cael canlyniadau nad ydym yn eu hoffi, mae'n rhaid i ni ddysgu bod angen trio rhywbeth newydd."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ddydd Mercher na fyddai hi byth yn ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Ms Wood mai mater i'r Ceidwadwyr fyddai sut y byddent yn pleidleisio pe bai Prif Weinidog Plaid Cymru wrth y llyw.

Disgrifiad o'r llun, Nid yw Leanne Wood fyth am ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr

Wrth siarad yng nghynhadledd gwanwyn y blaid yn Llangollen ddydd Gwener, dywedodd Liz Saville Roberts:

"O ran y polis茂au hynny rydym yn arddel fel plaid, ac yn hyderus o allu eu cyflwyno, mae unrhyw blaid arall sy'n barod i weithio gyda ni, ac yn fodlon cefnogi ein polis茂au er budd democratiaeth yng Nghymru ac er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru... dylem fod yn agored i weithio gyda nhw."

Gofynnwyd i Ms Saville Roberts a fyddai Leanne Wood yn cyd-fynd 芒 hi wrth drafod perthynas wleidyddol o'r fath, ac fe ymatebodd:

"Mae Leanne yn arweinydd effeithiol iawn ac yn wyneb effeithiol iawn i'r blaid. Mae angen i chi ofyn y cwestiwn hwn i rywun arall."