Plaid Cymru: Addewidion mewn llywodraeth

Fe fyddai Plaid Cymru yn sefydlu cwmni awyrennau cenedlaethol a grid ynni, ac yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 么l llefarydd economi'r blaid.

Yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn Llangollen ddydd Sadwrn, fe fu Adam Price yn esbonio beth fyddai dau dymor o lywodraeth Plaid Cymru yn ei gyflawni fel rhan o'r weledigaeth ar gyfer Cymru yn 2030.

Fe wnaeth Mr Price gynnig "deg cam ymlaen" ar gyfer "gwlad lewyrchus a llwyddiannus".

Darparu addysg brifysgol am ddim i fyfyrwyr Cymru

Yn ei araith i'r gynhadledd dywedodd: "Mae Cymru yn wlad gyfoethog sydd a'i phobl yn byw mewn tlodi."

Bu'n herio'r "myth" fod Cymru yn wlad dlawd, gan ddweud fod incwm y pen y wlad yn uwch na, "phob gwlad yn Asia oni bai am ddwy, pob un o wledydd America Ladin, ac yn gyfoethocach na mwy na hanner Ewrop."

Erbyn 2030 fe fyddai Plaid Cymru yn:

  • Sefydlu cwmni awyrennau rhyngwladol cenedlaethol gyda chyswllt uniongyrchol ag America ac Ewrop;
  • Creu grid ynni cenedlaethol;
  • Creu Cwmni Cartrefi Cenedlaethol;
  • Darparu addysg brifysgol am ddim i fyfyrwyr Cymru.

Fe fydd refferendwm ar ddyfodol Cymru yn cael ei gynnal ar ddiwedd ail dymor llywodraeth Plaid Cymru fyddai'n 么l Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn "holi'r genhedlaeth nesaf ble maen nhw eisiau i Gymru fod yng nghanol y ganrif, gan gynnwys annibyniaeth fel opsiwn realistig".