麻豆官网首页入口

Gwasanaeth Cymraeg o Lundain i Awstralia

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Sul 25 Mawrth, bu'r hediad cyntaf di-dor rhwng maes awyr Heathrow a Perth yng ngorllewin Awstralia gan y cwmni awyrennau Qantas.

Mae'r Cymro o Dreharris, Gregory Cole, yn gweithio i'r cwmni ers dros ddegawd. Roedd yn un o'r criw a oedd yn edrych ar 么l y 266 teithwr, hedfanodd 9,000 o filltiroedd mewn 17 awr, a hynny am y tro cyntaf erioed:

Ffynhonnell y llun, Gregory Cole
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gregory (trydydd o'r dde, yn y cefn) a gweddill criw hediad QF10 a hedfanodd o Heathrow i Perth am y tro cyntaf Ddydd Sul

"Ddechreues i gyda Qantas dros ddeng mlynedd y n么l, a gweithio fy ffordd trwy'r graddfeydd - dechre fel gweinydd yn nosbarth economi, yna busnes ac wedyn y dosbarth cyntaf.

"Dwi nawr yn hyfforddi ac yn asesu'r criw ar weithdrefnau argyfwng. Ynghyd 芒 hyn, rydw i hefyd yn rheolwr gwasanaethau cwsmeriaid.

"Dwi'n mwynhau'r swydd yn fawr iawn - cael gweld y byd (o Dubai i Singapore, Perth i Melbourne) a chael profiadau anhygoel ar y ffordd. Mae'n fraint cael bod yn rhan o sefydliad sy'n adnabyddus am wasanaeth o'r safon orau a'r cwmni hedfan mwyaf diogel yn yr awyr.

Ffynhonnell y llun, Qantas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr awyren 787 Dreamliner sy'n medru cludo teithwyr o un pen y byd i'r llall heb stopio

O Heathrow i Perth... heb stop

"Roedd dydd Sul yn arbennig iawn - yr hediad masnachol cyntaf di-dor o Lundain i Awstralia erioed. Roedd hi'n gymaint o anrhydedd cael gweithio arno, yn enwedig gan mai wedi cael f'enwebu i arwain y t卯m gan fy nghydweithwyr o'n i.

"Cafodd cinio ei weini dros gyfandir Ewrop, byrbrydau dros y dwyrain canol ac yna brecwast dros Gefnfor India cyn glanio yn Awstralia am 12.50 brynhawn Llun - 25 munud yn gynt na'r amserlen. Anhygoel!

"Dyna oedd y tro gyntaf i mi weithio ar yr awyren arbennig yma ers cael hyfforddiant yn Sydney fis hydref diwethaf. Cefais rannu'r profiad 芒 nifer o bobl oedd wedi bwcio yn benodol er mwyn cael bod yn rhan o'r hanes!

"Dwi nawr yn cael aros mewn gwesty ynghanol dinas Perth am dri diwrnod (hen ddigon o amser i fentro i weld y ddinas, a dad-flino!) cyn 'neud y siwrne eto yn 么l i Lundain.

Ffynhonnell y llun, Qantas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gregory yn barod amdani yn Heathrow cyn yr hediad hanesyddol

Gwasanaeth Cymraeg yr holl ffordd i ben draw'r byd

"Gan taw fi yw'r unig aelod o griw Qantas sy'n gallu siarad Cymraeg, o'dd e'n bwysig i mi gael bathodyn gyda'r ddraig arno.

"Ar ddechrau pob siwrne ry'n ni'n cyhoeddi pa ieithoedd mae'r criw yn gallu eu siarad. Felly os glywch chi Gymraeg, gofynnwch i siarad 'da fi - mae'n braf cael siarad gyda Chymry Cymraeg a chlywed eu cynlluniau ar gyfer eu gwyliau mawr yn Awstralia!"

Ffynhonnell y llun, Gregory Cole
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gregory yn falch iawn o gael y ddraig goch ar ei fathodyn er mwyn dangos i'r byd ei fod yn siarad Cymraeg!