麻豆官网首页入口

拢1.5m gan y Loteri i gefnogi diwylliant pum ardal

  • Cyhoeddwyd
LlechiFfynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn gwneud cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer dyffrynnoedd llechi'r gogledd

Mae pum lleoliad yng Nghymru wedi cael gwybod y byddan nhw'n rhannu bron i 拢1.5m o arian gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi datblygiad diwylliannol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri y bydd yr arian yn "galluogi'r pum cymuned lwyddiannus i archwilio sut y gall eu treftadaeth unigryw helpu i greu dyfodol llwyddiannus".

Mae'n cynnwys 拢362,000 i Gyngor Gwynedd er mwyn helpu datblygu cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd dyffrynnoedd llechi'r gogledd.

Y pedair ardal arall fydd yn elwa yw'r Barri, Llanelli, Y Preseli a Bae Colwyn.

Ffynhonnell y llun, Croeso Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y prosiect yn Y Barri yn dathlu hanes diwydiannol yr ardal

Gwneud Tonnau, Y Barri - 拢252,000

Nod y prosiect yw "defnyddio treftadaeth ac ymdeimlad o le yn y dref i ddod 芒 chymuned a lle yn agosach at ei gilydd, i berchen eu stori a'i dathlu drwy ddiwylliant a chreadigrwydd yn llygaid y cyhoedd".

Ffynhonnell y llun, Drew Buckley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod Ein Cymdogaeth Werin yw ennyn diddordeb yng ngorffennol gwledig Sir Benfro

Ein Cymdogaeth Werin, Sir Benfro - 拢218,000

Gyda ffocws ar orllewin gwledig Cymru bydd y prosiect yn defnyddio "dulliau arloesol i ymgysylltu pobl leol yn weithredol gyda dathlu eu hetifeddiaeth a'u diwylliant, ac i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu twristiaeth ddiwylliannol i gyfrannu at dwf economaidd a chymdeithasol".

Ffynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y prosiect ar arfordir Bae Colwyn yn derbyn 拢400,000

IMAGINE, Bae Colwyn - 拢400,000

Bydd y prosiect yn ymgysylltu 芒 chymunedau ac ymwelwyr tra'n "datblygu adnoddau i lunio gweledigaeth ar gyfer bywyd y Bae drwy raglen gwbl newydd o ymchwil creadigol, deialog wybodus a myfyrio yn y dyfodol".

Ffynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r prosiect yn Llanelli yn s么n am "drawsnewid cadarnhaol", fydd yn cynnwys yr iaith Gymraeg

Eich Treftadaeth, Eich Cyfle, Eich Lle, Llanelli - 拢200,500

Mae hwn yn brosiect 23 mis fydd yn "archwilio ffyrdd cadarnhaol o ddefnyddio treftadaeth a diwylliant cyfoethog y dref 么l-ddiwydiannol mewn cynlluniau adfywio tymor hir".

"Mae eisiau sicrhau bod y trawsnewid cadarnhaol yn seiliedig ar hunaniaeth a lles cymunedol, yr iaith Gymraeg a chymeriad cymdeithasol," meddai llefarydd.

LleCHI, Gwynedd -拢362,000

Mae Cyngor Gwynedd yn datblygu cais am statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd dyffrynnoedd llechi gogledd Cymru.

"Mae hwn yn ddathliad o'r cyfraniad gan ogledd Cymru i weddill y byd drwy gynhyrchu llechi, arbenigedd y gweithlu a throsglwyddo technoleg sy'n deillio o hynny dros y blynyddoedd," meddai llefarydd.