麻豆官网首页入口

Adeiladu pont i atal taro gwiwerod coch ar Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Wiwer goch
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gobaith yw adeiladu'r bont erbyn yr hydref fel bod llai o wiwerod coch yn cael eu taro gan gerbydau ar y ffordd

Bydd pont 25 troedfedd o uchder yn cael ei hadeiladu ar draws ffordd brysur mewn ymgais i atal gwiwerod coch rhag cael eu taro gan gerbydau.

Mae cynlluniau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i adeiladu'r bont rhaff ar draws yr A4080 yn Llanfairpwll wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Ynys M么n.

Yn 么l yr elusen mae degau o wiwerod coch yn cael eu taro bob blwyddyn, ac mae'r bont yn rhan o ymgais i gynyddu eu niferoedd.

Dywedodd Iwan Ellis-Roberts o'r ymddiriedolaeth: "Rydyn ni wrth ein boddau bod y cynlluniau wedi cael s锚l bendith. Mae'n eu helpu nhw i boblogi ardaloedd eraill."

Cynyddu'r niferoedd

Yn 2008 cafodd chwech o wiwerod coch eu cartrefu yng ngerddi Plas Newydd ac erbyn hyn mae mwy na 100 ohonynt.

Bydd y bont yn cysylltu'r gerddi i goetir gerllaw, gyda'r gobaith y bydd yn annog yr anifeiliaid i deithio i gynefinoedd newydd.

"Mae'n llawer gwell gan wiwerod coch fod mewn canopi," meddai Holly Peek, o Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru.

"Dydyn nhw ddim yn hoffi bod ar y llawr, felly'r gobaith ydy os byddwn ni'n darparu'r opsiwn o groesi'r ffordd iddyn nhw y byddan nhw'n cymryd y cyfle.

"Os oes 'na fwy o wiwerod o gwmpas, bydd y boblogaeth yn tyfu ac fe fyddan nhw'n ymledu i ardaloedd newydd hefyd."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae'r bont yn rhan o gynllun 拢10,000 sydd hefyd yn cynnwys bocsiau nythu a chuddio.

Yn y broses o godi'r arian mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyn o bryd, a'r gobaith yw y bydd y bont ar agor erbyn yr hydref.

Cadw golwg

Mae Mr Ellis-Roberts yn cydnabod bod rhai peryglon gyda'r bont newydd am fod modd iddynt ddod i gysylltiad gyda gwiwerod llwyd.

Mae'r rhain yn gallu cario firws sy'n medru lladd y wiwer goch.

Er bod Ynys M么n yn cael ei ystyried yn ardal lle nad oes gwiwerod llwyd, mae Mr Ellis-Roberts yn dweud bod rhai wedi eu gweld, a'r gred yw eu bod wedi nofio o'r tir mawr neu wedi croesi'r bont.

Bwriad yr ymddiriedolaeth yw gosod trapiau gyda chamer芒u ynddynt fel bod modd monitro'r sefyllfa.