麻豆官网首页入口

Seren Jones: Dychwelyd i'r famwlad arall

  • Cyhoeddwyd
zimbabwe

Mae Seren Jones wedi dychwelyd i Zimbabwe, y wlad lle cafodd ei mam ei geni a'i thaid ei gladdu, am y tro cyntaf ers i Robert Mugabe gael ei ddisodli fel arlywydd - dyma'i herthygl arbennig i Cymru Fyw.

Gallwch wylio Zimbabwe, Taid a Fi am 21:30 ar 5 Ebrill ar S4C.

Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl wrth ddychwelyd yn 么l i Zimbabwe. Roedd llawer o newid wedi digwydd ers i mi fynd y tro diwethaf.

Dwy flynedd yn 么l, Robert Mugabe oedd wrth y llyw, a dyna sut oedd hi ers 1980 pan gafodd ei ethol yn arlywydd cyntaf y wlad.

Wn芒i byth anghofio fy niwrnod olaf yn Zimbabwe tro diwethaf ym mis Awst 2016. Dwi'n cofio dweud hwyl fawr i fy nheulu a ffrindiau yn y maes awyr.

Roedd criw o tua chwech wedi ymgasglu i wneud yn si诺r fy mod i a mam yn cael mynd trwy'r maes awyr yn iawn.

Wrth adael clywais nifer o safbwyntiau gwahanol yn cael eu trafod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r tro cyntaf i Seren ddychwelyd i Zimbabwe ers dwy flynedd

Fy ewythr yn dweud: "Dewch yn 么l cyn bo hir." Modryb yn gofyn: "Pryd fyddech chi 'nol? Dewch 芒'r holl deulu tro nesa'." Ac un llais arall yn sibrwd: "Fydd Bob ddim yma tro nesa', mi fydd o wedi marw!"

Dwi ddim yn cofio pwy yn union fynegodd y frawddeg olaf, ond doedden nhw ddim yn bell o'r gwir.

Gwlad newydd

Dwy flynedd yn ddiweddarach, dwi'n dychwelyd i Zimbabwe gyda mam am y trydydd tro... i wlad newydd, gydag arlywydd newydd.

Arlywydd gwell? Pwy a 诺yr? Mae Emmerson Mnangagwa newydd gychwyn.

Er roeddwn yn edrych ymlaen at ddychwelyd, nid dim ond fel person gyda chyswllt teuluol ond fel newyddiadurwr, roeddwn yn poeni. Er bod y Zimbabwe newydd yn agored i'r cyfryngau rhyngwladol, roeddwn dal yn nerfus.

Doedd y 麻豆官网首页入口 ddim wedi'i gwahardd rhagor, ond doedd rhan ohonof fi ddim yn si诺r pa mor bell roeddwn i'n gallu gwthio pobl i siarad, ac i leisio eu barn.

O beth roeddwn i'n cofio yn y gorffennol, doedd siarad yn feirniadol am wleidyddiaeth ddim yn opsiwn; o gwbl.

Yn 么l fy ewythr: "We have freedom of speech, but no freedom after speech."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seren a'i chwaer Savanna gyda'u taid, neu Sekuru

Ers mis Tachwedd, pan ddaeth Emmerson Mnangagwa yn arlywydd y wlad, dwi wedi darllen a dysgu cryn dipyn amdano fe.

Roedd y Crocodeil, fel mae'n cael ei adnabod, yn hen ffrind a chydweithiwr efo Mugabe. Bu'r ddau'n filwyr yn ystod rhyfel annibyniaeth yn erbyn byddin wyn Rhodesia y 70au ar 么l derbyn hyfforddiant gan China a'r Aifft.

Mae nifer hefyd yn dyfalu am ei gyfrifoldeb yn yr ymyrraeth yn erbyn pobl Ndebele yng ngorllewin y wlad yn yr 80au, er mae'n gwadu'r cyhuddiadau.

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o gynllunio ymosodiadau ar gefnogwyr yr wrthblaid, Morgan Tsvangirai a'r MDC (Movement for Democratic Change), yn ystod etholiad cyffredinol 2008.

Siarad heb ofn

Ond er yr holl amheuon, am y tro cyntaf mewn degawdau, mae gan bobl Zimbabwe lais.

Roeddwn wedi synnu faint o bobl oedd yn fodlon siarad yn agored am wleidyddiaeth; yn rhoi eu barn heb ofn. Doedden nhw ddim yn ymweld yn poeni am beth fasa'n digwydd unwaith iddyn nhw orffen siarad.

Felly, mewn ffordd, gwelais fod pobl Zimbabwe mewn sefyllfa llawer gwell o ganlyniad i'r gyfundrefn newydd.

Er hyn, credaf y byddai Sekuru (y gair Shona am Taid) yn eithaf amheus am yr arlywydd newydd; roedd gan yr hen 诺r go' hir fel rwy'n deall.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seren (4ydd o'r dde) gyda'i theulu cyfan yn Zimbabwe

Er na ges y cyfle i'w adnabod mewn ffordd ystyrlon, nes i gwrdd 芒 fe unwaith pan roeddwn yn bedair oed. Bu farw Sekuru yn 2013, ac o ganlyniad o fynychu ei angladd, dechreuais ddiddori yn hanes Zimbabwe a theulu mam o ddifri'; i'r wlad oedd ef - a Mam o hyd - yn galw'n adref.

Yn 1972, i ddianc oddi wrth terfysg y rhyfel, penderfynodd Sekuru symud ei deulu i Brydain. Yn Llundain roedd yn aelod ac actifydd i barti ZANU-PF, sef parti Mugabe, a oedd ar y pryd yn ymladd i gael annibyniaeth yr erbyn llywodraeth y lleiafrif gwyn. Dyma'r adeg ddaeth Mugabe yn arwr i boblogaeth ddu Zimbabwe.

Pan ddychwelodd Sekuru yn 么l i'r Zimbabwe newydd ar ddiwedd y rhyfel, er nifer o gynigion, penderfynodd droi ei gefn ar wleidyddiaeth, a dechrau ffermio; ei uchelgais erioed. Roedd ei obeithion fel gwladgarwr wedi eu sylweddoli.

Adeg ansicr

Roedd mam hefyd eisiau mynd adre ar 么l annibyniaeth, i astudio yn y brifysgol. Fodd bynnag, wnaeth Sekuru ei pherswadio i aros ym Mhrydain, a derbyn addysg bellach yno yn lle.

Ei ddadl oedd fod y wlad newydd ddim yn medru rhoi y cyfleoedd oedd ar gael ym Mhrydain ar y pryd. Roedd rhaid i mam aros felly nes bod Zimbabwe yn sefydlog yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Dwi'n credu basa Sekuru yn dweud yr un peth nawr.

"Cymer bwyll, cymer amser. Arhoswch tan ar 么l yr etholiad efallai cyn rhoi penderfyniad mwy pendant ar bethau. Achos fod pethau yn edrych yn well nawr, does dim pendantrwydd fydd pethau wir yn gwella."

I nifer o bobl Zimbabwe, mae'r adeg yma yn un ansicr. Teimladau o gyffro, gobaith a nerfusrwydd; yn union fel ar ddechrau rheolaeth Mugabe. Yn sicr mae temtasiwn i ddathlu'r dyfodol ond mae ofn yn bodoli y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Does dim rhyfedd felly pam bod gan Zimbabwe gymaint o broblemau. Problemau i wneud 芒'r economi, seilwaith, addysg bellach, tlodi a diweithdra ymysg eraill. Er hyn, mae angen cofio fod Zimbabwe yn wladwriaeth ifanc iawn, gyda llawer o botensial.

Dwi'n gobeithio caiff y bobl beth maen nhw'n haeddu: dyfodol gwell a ffyniannus. Dwi'n gobeithio bydd Emmerson Mnangagwa yn gweinyddu'r bobl - yn lle disgwyl cael ei weinyddu.

Cawn weld.

Gallwch wylio Zimbabwe, Taid a Fi am 21:30 ar 5 Ebrill ar S4C.