麻豆官网首页入口

Cynllun i geisio lleihau lefel gordewdra plant y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Plentyn dros bwysauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 28.6% o blant rhwng pedair a phump oed y gogledd dros bwysau

Yn 么l adroddiad i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae 12.3% o blant pedair a phump oed y gogledd yn ordew, a gallai'r pwysau gael effaith "ddifrifol" ar eu hiechyd.

Mae 28.6% o blant y gogledd dros bwysau wrth ddechrau'r ysgol, yn 么l y ffigyrau yn yr adroddiad.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod mwy o famau'n ordew yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU.

Mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflwyno cynllun tair blynedd yn eu cyfarfod ddydd Iau i ymdrin 芒'r broblem.

Gostwng amser sgr卯n

Daw'r adroddiad i'r casgliad fod plant sydd dros bwysau yn ifanc yn debygol o fod dros bwysau pan yn oedolion hefyd.

Mae'n dweud bod angen cymryd camau i ddelio 芒'r cynnydd, gan gynnwys gostwng yr amser y mae plant yn ei dreulio o flaen sgr卯n.

Byddai hynny felly yn ceisio sicrhau gostwng defnydd plant o ffonau symudol a thabledi ynghyd 芒 gostwng yr amser y maen nhw'n gwylio teledu.

Mae nifer y plant sy'n ordew yn uwch yng Nghymru na'r cyfartaledd yn Lloegr, lle roedd 9.6% o blant dosbarth derbyn yn ordew y llynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan y bwrdd iechyd gynllun tair blynedd i ymdrin 芒'r broblem

Mae'r adroddiad yn galw am annog mamau newydd i fwydo o'r fron a phwysleisio mai d诺r a llaeth yw'r unig ddiodydd sydd eu hangen ar blant er mwyn gostwng gordewdra.

Bydd yr adroddiad, sy'n cael ei gyflwyno i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Iau, yn datgan pryder am y sefyllfa bresennol.

Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan Sarah Andrews, y prif feddyg iechyd cyhoeddus, a Siobhan Adams, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus.

Mae'n dweud bod gordewdra mewn plentyndod yn "arwain at broblemau iechyd difrifol" a bod "graddfa gordewdra yng ngogledd Cymru ymysg yr uchaf yn y DU".

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod "mwy o famau yn ordew yng Nghymru na'r un o wledydd eraill y DU", a bod hynny'n "un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu iechyd mamau a phlant mewn gwledydd datblygedig".

"Mae merched sy'n ordew ddwywaith yn fwy tebygol o eni baban marw-anedig ac y mae'r cynnydd yn codi wrth i BMI y fam godi," meddai'r adroddiad.

"Yn ogystal, mae babanod sy'n cael eu geni i famau gordew yn llai tebygol o fwydo o'r fron ac yn fwy tebygol o fod angen triniaeth mewn unedau i fabanod newydd-anedig."