Galw am well amddiffyn yng Ngharchar Berwyn

Disgrifiad o'r llun, Agorodd Carchar Berwyn ym mis Chwefror 2017

Mae 'na alw am well hyfforddiant ac arfau amddiffyn i swyddogion carchar wedi digwyddiadau yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam dros y penwythnos.

Bu farw un carcharor ac mewn digwyddiad arall bu'n rhaid i ddau swyddog carchar gael triniaeth ysbyty.

Agorodd Carchar Berwyn ychydig dros flwyddyn yn 么l.

Mae plismyn wedi dweud nad ydynt yn credu bod amgylchiadau amheus ynglyn 芒 marwolaeth y carcharor, Luke Jones.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cadarnhau bod yr heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiadau yn y carchar yn Wrecsam dros y penwythnos.

Chwistrell bupur

Yn y cyfamser mae cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchardai wedi galw ar i bob swyddog gael chwistrell bupur i'w amddiffyn.

Yn 么l Mark Fairhurst, mae'r chwistrell Pava yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn pedwar carchar ac y mae'n dweud bod nifer yr ymosodiadau yn y carchardai hynny wedi gostwng.

Dywedodd: "Mae'r hyn ddigwyddodd yng Ngharchar Berwyn dros y penwythnos yn dangos bod angen i bob swyddog carchar gael Pava."

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Dafydd Parri bod ymosodiadau mewn carchardai ar gynnydd

Yr wythnos ddiwethaf fe ddatgelodd Newyddion 9 fod nifer yr ymosodiadau yng ngharchardai Cymru wedi codi - o ryw wyth gant o ddigwyddiadau dair blynedd yn 么l i dros fil dau gant y flwyddyn ganlynol.

Yn naw mis cynta'r llynedd roedd 34 o ymosodiadau yng Ngharchar Berwyn.

Roedd Dafydd Parri'n arfer cadeirio bwrdd monitro carchar Caerdydd - mae'n dweud bod digwyddiadau o'r fath yn fwy prin adeg ei gadeiryddiaeth ef bron i 20 mlynedd yn 么l.

Wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau mae Bwrdd Monitro Carchar Berwyn wedi dweud y byddan nhw'n cyfeirio at ddiogelwch yn eu hadroddiad blynyddol ym mis Mehefin.