Perchnogion lladd-dai'n cwestiynu grant llywodraeth

Ffynhonnell y llun, PA

  • Awdur, Mari Grug
  • Swydd, Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae arian grant newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn teimlo mwy fel ymgais i lwgrwobrwyo, medd perchnogion lladd-dai yng Nghymru.

Daw'r feirniadaeth wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cymorth grant gwerth 拢1.1m ar gyfer lladd-dai bach a chanolig.

Mae'r arian yn cael ei gynnig er mwyn talu am seilwaith a chyfleusterau sy'n hyrwyddo lles, ac mae pwyslais hefyd ar osod a diweddaru systemau monitro teledu cylch cyfyng.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r arian yn ymateb i adborth ymgynghoriad.

'Teimlo dan bwysau'

Penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd peidio deddfwriaethu yn yr un ffordd 芒 Lloegr, sy'n gorfodi pob lladd-dy i osod systemau camer芒u cylch cyfyng o fis Mai nesaf.

Mae rhai lladd-dai bach a chanolig yng Nghymru wedi dweud eu bod yn teimlo dan bwysau i gyflwyno'r camer芒u er mwyn cael manteisio ar yr arian grant.

Wyth allan o 26 lladd-dy yng Nghymru sydd 芒 chamer芒u cylch cyfyng wedi'u gosod ar hyn o bryd.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, rhwystrau ariannol oedd un o brif ymatebion yr ymgynghoriad, ac mae'r buddsoddiad yma yn ymateb i hynny.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cigydd William Lloyd Williams o Fachynlleth yn teimlo nad yw ar ei ennill o gael y grant newydd

Mae cigydd Machynlleth wedi bod 芒 thrwydded lladd anifeiliaid ers 40 mlynedd, ond teimlo mwy o amheuaeth nag erioed am ei allu i redeg ei fusnes ei hun mae William Lloyd Williams.

"Rydyn ni'n croesawu'r grant ac unrhyw gymorth sy'n cael ei gynnig, ond eto dwi'n teimlo nad ydyn ni ar ein hennill yn y pen draw," meddai.

"Mae'n golygu mwy o fuddsoddiad eto ar ein rhan ni. Mae'r arian yn cael ei gynnig, ond dim ond os ydyn ni'n gosod camer芒u cylch cyfyng yn ein lladd-dai.

"Mae'n rhywbeth 'naeth Llywodraeth Cymru benderfynu peidio gwneud yn dilyn ymgynghoriad gyda ni."

'Gorfodi'

Yn berchennog ar Cig Oen Caron, mae Huw Evans yn teimlo ei fod yn cael ei orfodi i gyflwyno rhywbeth sydd, yn ei farn ef, yn ddiangen.

"Os ydych chi'n darllen y llythyr sydd wedi cael ei yrru atom ni, mae yna awgrym cryf bod rhaid i ni osod CCTV er mwyn i'r cais am grant gael ei ystyried yn iawn," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan bwysau gan Asiantaeth y Milfeddygon Prydeinig a'r RSPCA, i wneud camer芒u cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol.

Mae Llywodraeth Yr Alban hefyd yn ymgynghori ar gyflwyno'r mesur yn orfodol ar hyn o bryd, ac o fis Mai nesaf bydd pob lladd-dy yn Lloegr yn gorfod cael system gamer芒u.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rhwystrau ariannol oedd ymysg rhai o'r ymatebion mwyaf i'r ymgynghoriad.

"Oherwydd hynny, mae gosod a diweddaru camer芒u cylch cyfyng yn un o nifer o fuddsoddiadau a fydd yn gymwys ar gyfer y cyllid yma.

"Bydd rhestr lawn yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach."