Pont Tywysog Cymru: Yr ymateb i'r ail-enwi

Daeth cyhoeddiad ar 5 Ebrill y bydd ail bont Hafren yn cael ei hail-enwi yn Bont Tywysog Cymru.

Mae'r cyhoeddiad wedi achosi ymateb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol o amryw gyfeiriad...

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

Mae'r academydd yn credu fod yr enw newydd wedi ei ddewis er mwyn "ein hatgoffa fod Cymru wedi cael ei 'rhoi' i etifedd coron Lloegr pan oedd yn 9 oed".

Mae'r blogwraig Llio Angharad hefyd yn anhapus:

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns AS yn cydnabod fod rhai pobl yn anhapus â'r penderfyniad ond meddai ar raglen Good Morning Wales y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú: "Rwy'n gwybod fod y gymuned ehangach, y mwyafrif tawel yn cyd-fynd yn llwyr â'n penderfyniad."

Dywedodd hefyd ei fod yn "gwbl hyderus mai hwn yw'r peth iawn i wneud".

Diffyg ymgynghori

Mae nifer yn beirniadu Llywodraeth y DU am beidio ag ymgynghori â'r cyhoedd i ofyn beth oedd dewis y bobl, gydag Alun Cairns yn cael ei feirniadu'n chwyrn am ei ran yn y broses:

I osgoi neges Twitter, 3
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 3

Mae Ed Gareth Poole yn cyfeirio at sut aeth Llywodraeth yr Alban ati i ail-enwi pont newydd sy'n croesi'r Forth.

Cafwyd miloedd o awgrymiadau a degau ar filoedd o bleidleisiau er mwyn dewis yr enw Queensferry Crossing yn 2013, a agorwyd y llynedd.

: "Dyma sut mae ail-enwi pontydd. Rydych chi'n gofyn i'r cyhoedd i feddwl ac i gynnig syniadau, yna cael ymgyrch gyhoeddusrwydd trawiadol i ysbrydoli pobl i bleidleisio dros yr awgrymiadau."

Disgrifiad o'r fideo, Newid enw Pont Hafren: Y farn yn Llandeilo

Soniodd ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales iddi awgrymu y dylai'r bont gael ei henwi yn CROESO. Cafodd arddeall wedyn gan Paul Flynn AS mai dyna oedd awgrym y cyhoedd pan gafodd y bont ei hagor gyntaf.

Mae yn credu fod hwn yn debyg iawn i'r ffrae y llynedd yn dilyn cynlluniau Llywodraeth Cymru i godi cylch haearn yn Y Fflint.

Bu tro pedol ym mhenderfyniad y llywodraeth yn dilyn gwrthwynebiad nifer oedd yn dwyn tebygrwydd rhwng y cerflun â'r "cylch haearn" o gestyll a gododd Lloegr er mwyn concro Cymru.

Digon o drafod ar Taro'r Post

Disgrifiad o'r fideo, Yn cynnwys ymateb i ailenwi'r ail bont dros Afon Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Soniodd Alun Cairns am ei resymau dros ddewis yr enw, a'i fod yn deyrnged i Dywysog Cymru am ei holl waith gydag elusennau yng Nghymru ac am ei berthynas arbennig gyda Chymru.

Mae'n ddewis "cwbl addas" meddai, ac yn ffordd i "uno dwy wlad a dwy genedl at ei gilydd".

Nododd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd pawb yn dangos parch i'r rôl a'r gwaith mae'r Tywysog yn ei wneud yn y gymuned, drwy dderbyn yr enw newydd.

Roedd Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd yn credu fod y newid enw yn "ddi-bwynt a di-bwrpas" a'i fod yn "syniad hollol wleidyddol". Does yna neb wedi cael siawns i drafod, meddai, felly dim ond heddiw mae'r drafodaeth yn dechrau.

Roedd Vaughan Williams yn cwestiynu pam nad oedd Alun Cairns wedi mynd â'r rhesymeg dros yr ail-enwi gerbron y cyhoedd yn y lle cyntaf, a nodi ei fod yn ddiffyg democratiaeth sylfaenol.

Disgrifiad o'r llun, Fyddech chi'n mwynhau croesi Pont Chris Gunter wrth deithio i ac o Loegr?

Awgrymiadau am enwau eraill

Wrth gwrs, mae nifer o awgrymiadau am enwau eraill, gyda thywysogion eraill Cymru yn bennaf ar y rhestr - y rhai o'r oes a fu a'r rhai mwy cyfredol...

I osgoi neges Twitter, 4
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 4

I osgoi neges Twitter, 5
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 5

Er fod gan ambell un awgrym ychydig llai ymarferol, gyda Bridgey McBridgeFace yn cael ei gynnig fwy nag unwaith, a'r fersiwn ychydig mwy Cymraeg, Ponty ap Pontface, hefyd yn codi ei ben.

A beth am awgrym ysbrydoledig y newyddiadurwr Ciaran Jenkins - ...?!