麻豆官网首页入口

Carchardai newydd: Dim cefnogaeth y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
CarcharFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd cynlluniau ar gyfer carchardai newydd yng Nghymru yn cael cefnogaeth gan weinidogion ym Mae Caerdydd oni bai bod trafodaethau "ystyrlon" yn digwydd gyda llywodraeth y DU, meddai Ysgrifennydd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Alun Davies.

Daw ei gyhoeddiad yn dilyn galwadau i Lywodraeth Cymru wrthod gwerthu tir ar gyfer adeiladu carchar ym Maglan, Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Mr Davies wrth ACau nad yw datblygu mwy o garchardai yng Nghymru "er lles" pobl y wlad.

Mae Mr Davies wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cyfiawnder y DU, David Gauke, yn galw am greu "deialog".

'Datblygiad ddim o fantais'

Dywedodd yr AC dros Flaenau Gwent: "Rydw i'n pryderu, heb drafodaeth fanwl ac ystyrlon 芒 Llywodraeth y DU, y byddwn yn parhau i weld galw cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac ni fydd unrhyw ddatblygiad newydd o fantais i bobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

"Rydw i'n pryderu nad yw rhai o'r dynion a merched sy'n cael eu hanfon i'r carchar yng Nghymru yn derbyn y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu hadferiad a'u cefnogi'n effeithiol i beidio ag aildroseddu."

Ychwanegodd: "Hyd nes bod hyn yn cael ei ystyried yn fwy manwl, a bod trafodaethau mwy ystyrlon gyda Llywodraeth y DU, nid wyf yn credu fod y datblygiad o fudd i Lywodraeth Cymru na phobl Cymru.

"Rwyf felly wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder i roi gwybod iddo, a hyd nes y bydd deialog well 芒 Llywodraeth Cymru yn digwydd, ni fyddwn yn hwyluso datblygiad pellach yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym ar hyn o bryd yn buddsoddi 拢1.3 biliwn i ddiwygio'r stad garchardai yng Nghymru a Lloegr - fe fydd carchardai newydd yn disodli carchardai h欧n gyda chyfleusterau mwy modern.

"Yng Nghymru yn unig fe fydd hyn yn creu hyd at 500 o swyddi ac yn cyfrannu 拢11 miliwn y flwyddyn i'r economi ranbarthol.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adeiladu carchar ym Mhort Talbot, ac rydym yn parhau i ymgysylltu 芒 chymunedau lleol, busnesau a rhanddeiliaid eraill."