麻豆官网首页入口

Marathon newydd Casnewydd 'gwerth 拢1.1m i'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Hanner Marathon Dinas CasnewyddFfynhonnell y llun, Hanner Marathon Dinas Casnewydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd hanner marathon Casnewydd ei chanslo eleni oherwydd yr eira

Mae gan farathon newydd yng Nghasnewydd y potensial i greu 拢1.1m i economi'r ardal dros y tair blynedd nesaf, yn 么l adroddiad i gyngor y ddinas.

Mae tua 10,000 o redwyr wedi cofrestru i redeg Marathon ABP Casnewydd Cymru neu'r ras 10K sy'n cael ei chynnal ar yr un diwrnod ar 29 Ebrill.

Mae'r trefnwyr, Run 4 Wales, yn amcangyfrif y bydd torf o 20,000 o bobl yn gwylio'r ras, fydd yn hwb i fusnesau'r ddinas.

Yn 么l yr adroddiad, mae'r trefnwyr yn gofyn i Gyngor Casnewydd gyfrannu 拢90,000 tuag at y ras nes y bydd yn gallu ei ariannu ei hun.

Maen nhw'n disgwyl y byddan nhw'n gallu gwneud hynny erbyn 2020, ond nes hynny maen nhw hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfrannu 拢120,000.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cyhoeddiad ym mis Hydref y byddai'r marathon yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni

Mae'r adroddiad yn dweud: "Mae'r cytundeb am gefnogaeth dros dair blynedd yn unig, ac wedi hynny dylai'r digwyddiad allu ariannu ei hun a bod yn gynaliadwy heb yr angen am nawdd cyhoeddus."

Bydd cabinet y cyngor yn cwrdd i drafod y cais y trefnwyr am arian a chefnogaeth swyddogion yr awdurdod yr wythnos nesaf.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman ei fod yn gobeithio y bydd y marathon a'r ras 10K yn dod yn "ddigwyddiad parhaol" yn y calendr chwaraeon yng Nghymru.

"Mae dinas Casnewydd a'r ardal o'i chwmpas yn darparu tirwedd perffaith ar gyfer ras i redwyr o bob gallu," meddai.