麻豆官网首页入口

Trais yn y cartref: Mwy o ddynion yn chwilio am gymorth

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn amddiffyn ei hunFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried cynlluniau i sefydlu lloches ar gyfer dynion sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn sgil cynnydd yn nifer y dynion sy'n gofyn am gefnogaeth.

Yn 么l arbenigwyr yn y maes, mae mwy o ymwybyddiaeth yngl欧n 芒'r broblem wedi'i gwneud hi'n fwy derbyniol i ddynion chwilio am gymorth.

Mae'r elusen Calan DVS yn datblygu rhaglen arbennig ar gyfer cefnogi dynion, ac yn dweud mai dyma'r cynllun cyntaf o'i fath drwy'r DU.

Dywedodd eu prif weithredwr, Rachael Eagles bod cynnydd yn nifer y dynion sy'n ymweld 芒'u canolfannau galw heibio.

Rhwystrau

"Chafodd ffigyrau mo'u casglu am gyfnod hir ond mae yna gynnydd," dywedodd.

"Dydyn ni ddim yn gwybod os mae hynny oherwydd bod gyda ni well adnoddau i ddynion gysylltu 芒 ni, ynteu oes yna dwf yn nifer y dioddefwyr sy'n dod trwy'r system, ond mae yna gynnydd ar y cyfan."

Mae'r elusen yn gwasanaethu Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, de Powys a Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.

Mae dynion sydd wedi dioddef trais yn y cartref ymhlith aelodau gr诺p llywio sy'n datblygu'r rhaglen i helpu dioddefwyr eraill yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen yn cael ei gwerthuso ar hyn o bryd gan Brifysgol De Cymru.

Dywedodd Ms Eagles bod angen darparu cefnogaeth mewn ffordd wahanol, a mynd i'r afael 芒'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag gofyn am gymorth.

"Mae 'na lochesi ar gyfer dynion, mae gwasanaethau un-i-un ar gael, ond dim rhaglen neilltuol at ddefnydd swyddogion proffesiynol. Rydym yn tueddu i addasu adnoddau eraill."

'Fe fyddai hi'n dechrau fy mwrw wrth imi gysgu'

Dywedodd Philip (nid ei enw iawn) i'w wraig ei gam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol dros dair blynedd.

Bu'n rhaid iddo ffoi o'u cartref ac fe chwiliodd am loches ar 么l ceisio lladd ei hun "bedwar neu bump" o weithiau.

"Roeddwn yn teimlo'n ddi-werth ac ofnus. Roedd hi wastad yn fy nghyhuddo o gamfihafio gyda menywod lleol. Doeddwn ni ddim eisiau bod allan o'r t欧 am hir. Roeddwn wastad ar bigau'r drain. Roedd yn hunllef."

Gadawodd ei swydd wedi damwain yn y gweithle, ac fe wariodd ei wraig 拢100,000 o'r iawndal a gafodd ar gyffuriau a hapchwarae ar-lein.

"Os oeddwn i'n codi'r mater fe fyddai'n dreisgar. Weithiau yng nghanol y nos, fe fyddai'n dechrau fy mwrw wrth i mi gysgu. Doedd dim esboniad [am ei hymddygiad]."