Horizon yn oedi cyn cyflwyno cais ar gyfer Wylfa Newydd

Ffynhonnell y llun, Horizon

Disgrifiad o'r llun, Dyluniad arlunydd o safle arfaethedig yr orsaf newydd ar Ynys M么n

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am ddatblygu atomfa Wylfa Newydd ar Ynys M么n wedi cadarnhau eu bod angen mwy o amser cyn cyflwyno eu cais cynllunio.

Yn 么l cwmni Horizon maen nhw angen "ychydig mwy o amser" oherwydd materion yn ymwneud 芒 chynefin adar yng ngwarchodfa natur Cemlyn.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Ein bwriad gydol yr amser oedd cael Gorchymyn Caniat芒d Datblygu a fyddai yn cwrdd 芒'n gofynion ni a gofynion ein prif randdeiliaid.

"Cyn ein bod yn cyflwyno ein Gorchymyn Caniat芒d Datblygu yn derfynol bwriadwn gymryd mwy o amser er mwyn gweld sut mae delio 芒 chynefinoedd adar sydd wedi'u gwarchod ger safle Wylfa Newydd.

"Ry'n yn hyderus y byddwn yn gallu datrys y mater a gwneud cais cryf am Orchymyn Caniat芒d."

Yn ystod misoedd Medi a Hydref y llynedd cafodd 15 arddangosfa gyhoeddus eu cynnal ar draws Ynys M么n, Gwynedd a Chonwy er mwyn casglu barn pobl leol ar y cynlluniau.