麻豆官网首页入口

Heddlu'n 'asesu' honiad am dwyll Chris Davies AS

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies AS

Fe allai AS Brycheiniog a Maesyfed wynebu ymchwiliad i dwyll ariannol gan Heddlu'r Met yngl欧n 芒 chostau gafodd eu hawlio dwy flynedd yn 么l.

Dywedodd Chris Davies wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod wedi gwneud "camgymeriad gonest" wrth hawlio am ddodrefn a lluniau ar gyfer ei swyddfa etholaeth yn 2016.

Ychwanegodd Mr Davies ei fod wedi cyfeirio ei hun at yr Awdurdod Annibynnol Safonau Seneddol (IPSA), y corff sy'n cadw golwg ar dreuliau ASau.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Blaid Geidwadol dderbyn cwyn am gais Mr Davies am 拢700.

Fe gafodd y gwyn ei chyfeirio at y IPSA.

Dywedodd llefarydd: "Fe ddaethom yn ymwybodol o'r mater ddiwedd Mawrth 2018 ac rydym wedi cymryd camau priodol, gan gynnwys dychwelyd yr arian."

Mae Mr Davies, gafodd ei ethol am y tro cyntaf yn 2015, wedi cadarnhau i'r 麻豆官网首页入口 iddo ad-dalu 拢450 ar 么l cais gan yr IPSA.

'Wedi ymddiheuro'

Ychwanegodd ei fod wedi gwneud "camgymeriad gonest" yn deillio o'i ddiffyg profiad o god yr IPSA.

"Nid wyf erioed wedi hawlio am rywbeth nad oedd hawl i wneud," meddai.

"Rwyf wedi ymddiheuro am gael y cod yn anghywir.

"Nid wyf wedi gwneud unrhyw beth yn anghywir ac rwyf am adfer fy enw da a delio gyda hyn."

Dywedodd Heddlu'r Met fod yr IPSA wedi cyfeirio'r mater iddynt ddydd Mercher 4 Ebrill a hynny "mewn cysylltiad 芒 threuliau gafodd eu hawlio gan unigolyn".

"Mae'r mater ar hyn o bryd yn cael ei asesu gan swyddogion T卯m Ymchwilio y Met."

Mae Mr Davies yn derbyn iddo greu dwy anfoneb ar gyfer cais am dreuliau y dylai wedi ei wneud ar-lein.

Mae o'n mynnu fod y wybodaeth wedi bod yn gyhoeddus am ddwy flynedd.

Ychwanegodd ei fod ond yn ymwybodol o r么l yr heddlu yn y mater ar 么l i bapur newydd y Mail on Sunday gysylltu ag ef ddydd Sadwrn.

Dywedodd y byddai'n "hapus i egluro'r sefyllfa i'r heddlu".