AC UKIP yn gwario 拢10,000 ar swyddfa wnaeth ddim agor

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Bennett wedi bod yn AC dros ranbarth Canol De Cymru ers 2016

Mae AC UKIP wedi gwario bron i 拢10,000 o arian cyhoeddus mewn rhent a chostau eraill ar swyddfa yn ei etholaeth wnaeth erioed agor.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad ei fod yn gweithio i adfer rhan o'r arian gafodd ei wario ar y swyddfa roedd Gareth Bennett yn bwriadu ei hagor ym Mhontypridd.

Mae'r aelod dros ranbarth Canol De Cymru wedi dweud mai problemau gyda'r landlord oedd y rheswm pam na chafodd y swyddfa ei hagor.

Dywedodd llefarydd ar ei ran ei fod wedi gwario 拢4,500 o'i boced ei hun i ddod 芒'r brydles i ben.

Ffrae 芒'r landlord

Roedd y costau'n cynnwys mwy na 拢5,100 o rent, mwy na 拢2,000 ar gyfer deunydd adeiladu ac o leiaf 拢1,500 ar waith cyfreithiol.

Mae'r cofnod treuliau'n dangos ei fod wedi hawlio o leiaf 拢9,972 ar gyfer swyddfa yn ei etholaeth.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Roedd Gareth Bennett eisiau agor swyddfa ar hen safle clwb nos Angharad's ym Mhontypridd

Fe wnaeth Mr Bennett arwyddo prydles am y swyddfa ar Stryd Fawr Pontypridd ar 24 Mawrth 2017, ond dywedodd ei lefarydd bod d诺r wedi dechrau dod i mewn i'r adeilad.

Yn 么l y llefarydd fe wnaeth y landlord wrthod cywiro'r broblem gan ddweud mai cyfrifoldeb y tenant oedd hynny, er nad oedd staff Mr Bennett wedi symud i mewn i'r swyddfa.

"Fe wnaethon ni ddechrau achos cyfreithiol yn erbyn y landlord ac fe lwyddon ni i ddod 芒'r brydles i ben yn gynnar," meddai'r llefarydd.

'Y treuliau'n gymwys'

Ychwanegodd bod Mr Bennett wedi penderfynu rhedeg ei swyddfa o'r Cynulliad, ac y bydd hynny'n "arbed arian yn y pendraw".

Dywedodd llefarydd o Gomisiwn y Cynulliad bod y sefydliad yn "fodlon bod holl dreuliau Mr Bennett ar gyfer y swyddfa yn ei etholaeth yn gymwys".

Ychwanegodd bod t卯m wedi bod yn "gweithio gyda swyddfa Mr Bennett i adfer rhai o'r costau o ganlyniad i ddod 芒'r brydles i ben yn gynnar".

Fe wnaeth y llefarydd wrthod cadarnhau os oes y mater wedi'i gyfeirio at Gomisiynydd Safonau annibynnol y Cynulliad, a pha gostau y maen nhw'n ceisio adfer.