The Assassination of Katie Hopkins i agor yn Theatr Clwyd

Ffynhonnell y llun, Charley Wiles

Disgrifiad o'r llun, Ein rhyddid i lefaru a sut caiff newyddion ei ledaenu fydd rhai o brif them芒u'r ddrama, yn 么l yr awdures

Bydd y sioe ddadleuol 'The Assassination of Katie Hopkins' yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru nos Wener.

Mae'r sioe gerdd, sy'n cael ei ddisgrifio fel un "ffraeth" gan Theatr Clwyd yn Sir y Fflint, wedi ysgogi cryn ymateb - yn bennaf oherwydd ei theitl.

Dywedodd Ms Hopkins fod teitl y sioe yn "wahoddiad" cyn cwestiynu pam mai enw hi gafodd ei ddefnyddio.

Ymatebodd Chris Bush, awdures y sioe gerdd, drwy ddweud nad yw'r cynnwys yn clodfori nac yn annog llofruddiaeth Ms Hopkins mewn unrhyw ffordd.

'Pynciau llosg cymdeithas'

Er bod y sioe gerdd yn dechrau gyda llofruddiaeth Ms Hopkins, nid dyma brif ffocws y perfformiad meddai'r awdur.

"Stori yw hon sydd yn defnyddio'r ymateb yn sgil y digwyddiad ffuglennol i edrych ar bynciau llosg ein cymdeithas," eglurodd Ms Bush.

Mae cyfansoddwr y gerddoriaeth, Matt Winkworth, yn ehangu ar hyn drwy ddweud mai prif them芒u'r sioe yw'r rhyddid i fynegi barn, a sut mae newyddion yn cael ei rannu a'i drafod ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Katie Hopkins wedi cwestiynu enw'r sioe ar ei gwefan

Dilyn helynt dwy ddynes ifanc mae'r sioe, un sy'n cydymdeimlo'n gryf 芒 Ms Hopkins, ac un arall sy'n credu fod digwyddiadau eraill yn fwy haeddiannol o'r sylw.

Wrth egluro'i phenderfyniad i ddewis Ms Hopkins fel yr unigolyn dan sylw, dywedodd Ms Bush ei bod hi'n "bwysig fod y sioe yn canolbwyntio ar ddynes".

'Hollti barn'

"Mae menywod dadleuol, di-flewyn-ar-dafod yn dal i gael eu barnu yn fwy llym gan y cyhoedd o'i gymharu 芒 dynion," meddai.

"Mae'r unigolyn angen bod yn un sy'n hollti barn gyhoeddus er mwyn herio'r ffordd rydym ni meddwl am barchu bywyd a marwolaeth."

Er bod Ms Hopkins wedi cwestiynu enw'r sioe ar ei gwefan, gwrthododd hi'r cyfle i gael ei chyfweld ar y mater.

Bydd y sioe yn agor yn Yr Wyddgrug ar nos Wener 20 Ebrill, ac yn parhau hyd at 12 Mai.