麻豆官网首页入口

Cynnyrch misglwyf am ddim i ddisgyblion Rhondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Cynnyrch misglwyfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd hi'n orfodol i ysgolion Rhondda Cynon Taf ddarparu'r cynnyrch

Bydd cynnyrch misglwyf yn cael ei gynnig am ddim i ferched ysgol dros naw oed yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr argymhelliad, sy'n dweud y dylai fod yna ddosbarthwyr a basgedi ym mhob toiled ysgol, ei gymeradwyo gan y cyngor ddydd Iau.

Dywedodd yr argymhelliad fod cynnyrch misglwyf "mor hanfodol 芒 phapur toiled ar gyfer glendid personol".

Mae'r penderfyniad yn ei gwneud hi'n orfodol i ysgolion ddarparu'r cynnyrch.

Mae disgwyl i'r cynllun gostio hyd at 拢21,000 i ysgolion cynradd a hyd at 拢73,305 i ysgolion uwchradd, a hynny heb gynnwys y dosbarthwyr a'r basgedi.

'Mater o gydraddoldeb'

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru, Elyn Stephens ei bod hi wrth ei bodd fod y cynllun wedi ei dderbyn.

"Fel mater o gydraddoldeb, dylen ni fod yr un mor gyfforddus yn trafod cynnyrch misglwyf a phapur toiled," meddai.

"Er mwyn sicrhau fod yr argymhellion yn cael eu gweithredu yn llawn mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n cael eu hariannu yn gywir bob blwyddyn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi 拢57,000 at gynllun peilot eleni, yn ogystal ag addo 拢17,500 pellach am y ddwy flynedd nesaf.