Ras arweinydd angen bod yn 'gystadleuaeth, nid coroni'

Ffynhonnell y llun, Labour Party

Disgrifiad o'r llun, Dyw Hannah Blythyn ddim wedi diystyru ymgeisio ei hun am yr arweinyddiaeth

Mae angen i'r ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru fod yn "gystadleuaeth, nid coroni", yn 么l un o weinidogion y blaid.

Dywedodd AC Delyn, Hannah Blythyn, bod angen amrywiaeth o ymgeiswyr i olynu Carwyn Jones.

Mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cefnogi galwad Ms Blythyn.

Fe gyhoeddodd Mr Jones ddydd Sadwrn y byddai'n camu o'i r么l fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru yn yr hydref.

Yn siarad 芒 rhaglen Good Morning Wales fore Mercher ni wnaeth Ms Blythyn ddiystyru ymgeisio ei hun am yr arweinyddiaeth.

'Amrywiaeth rhanbarthol'

Ers genedigaeth datganoli yn 1999 mae pob arweinydd Llafur Cymru a phob prif weinidog y wlad wedi bod yn ddynion gwyn sydd un ai'n cynrychioli, neu'n dod yn wreiddiol o etholaethau'r de.

Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yw'r unig berson sydd wedi cadarnhau y bydd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Ms Blythyn, wrth Radio Wales: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennym ni gystadleuaeth, nid coroni, a byddwn yn hoffi gweld amrywiaeth o ymgeiswyr, gan gynnwys amrywiaeth rhanbarthol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daeth Carwyn Jones yn brif weinidog Cymru yn 2009 yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan

Ni wnaeth yr AC, gafodd ei hethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf yn yr etholiad diwethaf yn 2016, ddiystyru ymgeisio ei hun am y r么l.

"Mewn gwleidyddiaeth mae'n ddiogel datgan 'peidiwch dweud byth'," meddai.

"Rydw i'n aelod Cynulliad ers llai na dwy flynedd, a doeddwn i ddim yn disgwyl bod yn rhan o'r llywodraeth ar 么l 18 mis."

'Mark ddim eisiau coroni'

Mae Ms Griffiths wedi cefnogi galwad ei chyd-AC Llafur, gan ychwanegu nad yw hi wedi ystyried ymgeisio ei hun.

"Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un eisiau gweld coroni. Rwy'n si诺r na fyddai Mark [Drakeford] ei hun eisiau gweld hynny," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lesley Griffiths wedi galw i'r arweinydd gael eu dewis ar ffurf un-aelod-un-bleidlais

Dywedodd Ms Griffiths, sydd wedi bod yn AC dros Wrecsam ers 2007, ei bod yn credu ei bod yn bwysig cael dynes yn rhan o'r ras.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig cael cymaint o ymgeiswyr 芒 phosib. Mae gennym ni gr诺p gwych, llawer o brofiad, llawer o uchelgais a llawer o syniadau," meddai.

Un-aelod-un-bleidlais

Ychwanegodd ei bod yn "gwbl hanfodol" bod yr arweinydd yn cael eu dewis ar ffurf un-aelod-un-bleidlais, ac nad oes esgus i ddefnyddio unrhyw system arall.

Gofynnodd: "Sut alla i gael pleidlais sy'n werth 400 o bleidleisiau'n fwy na chadeirydd fy etholaeth, sy'n gwneud cymaint o waith caled i sicrhau fy mod i'n gallu dod yma a gwneud fy ngwaith?"

Wrth iddo gyhoeddi ei fwriad i gamu o'r r么l, dywedodd Mr Jones bod y misoedd yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant wedi bod yn "gyfnod tywyll", gan ychwanegu y byddai ei ymadawiad yn cynnig "dechrau ffres" i'r blaid a'r wlad.

Mae'r prif weinidog wedi bod dan bwysau sylweddol dros y misoedd diwethaf yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet.