Cytundeb ar Fesur Ymadael Brexit 'ddim yn berffaith'

Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw'r cytundeb rhwng Llywodraethau'r DU a Chaerdydd ar Brexit "yn berffaith".

Roedd Mark Drakeford AC yn siarad yn y Senedd ddiwrnod wedi i'r llywodraethau ddod i gytundeb ar yr anghydfod am "gipio pwerau" o Fae Caerdydd.

Wedi misoedd o drafod rhwng gweinidogion y ddwy lywodraeth, fe gytunon nhw ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.

'Canlyniad aeddfed'

Wrth annerch Aelodau Cynulliad ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford y byddai wedi bod yn well ganddo "beidio 芒 chael Cymal 11, ac i bob llywodraeth ymddiried yn ei gilydd i beidio deddfu mewn meysydd yr ydyn ni'n cytuno sydd angen fframweithiau ar draws y DU, hyd nes bod cytundeb ar fframweithiau o'r fath".

Fodd bynnag, dywedodd fod y cytundeb yn cynrychioli cynnydd sylweddol iawn o'i gymharu gyda lle'r oedden nhw ychydig wythnosau yn 么l: "Mae wedi golygu cyfaddawdu ar y ddwy ochr.

"Crefft trafod yw bod yn fodlon i addasu safbwynt cychwynnol pan fo'ch cyfatebwyr yn fodlon gwneud hynny hefyd.

"Dyna beth yr ydyn ni wedi ei wneud ac rydw i'n credu bod y canlyniad yn gytundeb aeddfed rhwng llywodraethau sy'n parchu buddiannau ei gilydd".

Croesawu'r canlyniad wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig, ond unwaith eto, cyhuddodd Plaid Cymru y llywodraeth o "ildio" i Lywodraeth y DU.

"Mae ein dylanwad wedi mynd, arweinyddiaeth wedi'i golli a'n senedd wedi ei gwanhau," meddai'r arweinydd Leanne Wood.

Dywedodd arweinydd UKIP, Neil Hamilton, fod y cytundeb "yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol".

Trosglwyddo grymoedd

Yn unol 芒'r cynnig newydd, byddai'r rhan fwyaf o 64 o bwerau'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n cael eu rheoli gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ar hyn o bryd, yn cael eu trosglwyddo i Gaerdydd wedi Brexit.

Byddai'r gweddill - cyfanswm o 24 - yn mynd i San Steffan am gyfnod o hyd at saith mlynedd, fel y gall systemau ar draws y DU gael eu creu ar gyfer materion fel labeli bwyd.

Mae'r cytundeb yn cynnwys cytundeb gwleidyddol, nid cyfreithiol, y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gytundeb y Cynulliad cyn newid unrhyw un o'r grymoedd fydd yn cael eu cadw yn Llundain.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Theresa May fod sicrhau'r cytundeb wedi bod yn "gamp sylweddol"

Yn gynharach, fe groesawodd y Prif Weinidog Theresa May y cytundeb, gan ddweud ei fod yn rhoi "sicrwydd cyfreithiol" ac yn parchu "setliadau datganoledig".

"Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r bil i adlewyrchu materion gan aelodau a gan y gweinyddiaethau datganoledig," meddai

"Mae wir yn siom nad yw Llywodraeth yr Alban eto'n teimlo y gallan nhw roi eu cytundeb i'r gwelliannau newydd, ac rydym yn gobeithio'n ddidwyll y byddan nhw'n ailystyried eu sefyllfa," meddai.