麻豆官网首页入口

Dwy ffrind yn chwalu 'delwedd berffaith' Facebook

  • Cyhoeddwyd
Kerryann Evans gyda darluniau Facebook o'i chwmpasFfynhonnell y llun, Rebecca Rosser
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun Rebecca Rosser o Kerryann Evans: 'Dyw delweddau 'ffals' Facebook ddim yn helpu iechyd meddwl pobl meddai'r ddwy ffrind

Mae dwy ffrind wedi dod at ei gilydd i greu cyfres o luniau sy'n portreadu gorbryder, wedi iddyn nhw ddarganfod trwy gyfryngau cymdeithasol bod y ddwy yn brwydro'r un salwch.

Dyma hanes y ffotograffydd, Rebecca Rosser a'i ffrind, Kerryann Evans.

"Dychmygwch deimlo'n fregus a diwerth, ac agor Facebook, a gweld yr holl negeseuon yma'n dangos y 'bywyd perffaith' - pawb yn ymdrechu i ddangos ei hun yn y ffordd orau posib," meddai Rebecca Rosser, ffotograffydd o Aberpennar.

Mae Rebecca wedi cael llond bol ar y darluniau a'r negeseuon mae hi'n eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol.

"Mae Facebook yn enbyd o arwynebol - ry'n ni'n dangos pethau ry'n ni'n meddwl mae pobl eisiau eu gweld: profiadau da, y lluniau gorau - y gorau o bopeth," meddai.

"Ond pa mor aml welwn ni'r pethau dyfnach yna, yr eiliadau anodd? Yr amseroedd yna sy'n heriol, llun o'n hunain sydd ddim yn ein dangos ni mewn goleuni da, rhag ofn y feirniadaeth?

"Gall unrhyw un liwio'r bywyd perffaith ar Facebook - 'dyw hynny ddim yn anodd.

"Ond ydy Facebook yn adlewyrchiad teg o fywyd go iawn?"

Tu 么l i bob gw锚n hyfryd, statws hapus, bywyd perffaith, mae yna berson go iawn, gyda phroblemau go iawn, meddai Rebecca.

'Dyw dangos yr ochr orau o fywyd ddim yn anghywir ond mae'n afrealistig i feddwl bod bywyd person yn berffaith drwy'r amser, meddai.

Dangos gorbryder trwy ffotograffau

Ffynhonnell y llun, Rebecca Rosser
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Penderfynodd Rebecca Rosser ddangos yr ochr arall o'i hun sy'n cael ei "fwyta'n fyw" gan orbryder

Fel ffotograffydd, mae Rebecca'n hen gyfarwydd 芒 dal eiliadau hapus ar gamera, a chreu lluniau perffaith - ac mae hi ei hun yn dewis dangos ei hun yn 'hapus' ym mhob llun wrth eu postio ar gyfryngau cymdeithasol.

Ond penderfynodd ddangos yr ochr arall ohoni - yr un sy'n dioddef yn dawel bach o salwch sy'n gwneud iddi deimlo'n ddiwerth.

Postiodd lun o'i hun, a bod yn onest am ei gorbryder.

"Mae'r salwch yn rhan ohonof i, ac fe wnes i fagu plwc a rhannu rhywbeth ro'n i wedi bod yn ei gelu, i'r byd gael gweld. Doedd dim eisiau bod 芒 chywilydd, mwyach," meddai.

Yn fuan ar 么l hynny, cafodd neges gan ferch a oedd yn byw yn yr un ardal - Keryann Evans, yn dweud ei bod hi'n dioddef o orbryder hefyd.

"Ro'n i'n ffrindiau ar Facebook, a doedd dim syniad gan yr un ohonom ein bod ni'n brwydro yn erbyn yr un salwch," meddai Rebecca Rosser.

Lluniau'n dangos y gwir

Ar 么l siarad, a phenderfynu na ddylai problemau iechyd meddwl fod yn dab诺, aeth y ddwy ati i drefnu cyfres o luniau o Kerryann wedi eu tynnu gan Rebecca.

"Ro'n i eisiau agor llygaid pobl, a dangos ei bod hi'n OK i beidio 芒 bod yn OK," meddai Rebecca sy'n dweud bod gorbryder wedi bod yn ei 'bwyta'n fyw'.

"Ry'ch chi'n gaeth yng nghell eich meddyliau, ac mae'r teimlad o bryder yn arllwys dros eich corff, o'ch corun i'ch sawdl," meddai'r ffotograffydd.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Rosser
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn ymddangos yn lluniau Rebecca Rosser doedd Kerryann Evans ddim wedi rhannu ei phroblemau gyda gorbryder ar Facebook o'r blaen

"Os daw rhagor i siarad yn agored am bynciau anodd fel hyn, fydd problemau iechyd meddwl ddim yn dab诺 - rhaid torri'r cylch dieflig yma."

Synnwyr ffals o'r hyn sy'n 'normal'

I Keryann Evans, mae brwydro gorbryder yn ddyddiol yn faich ac mae yna ddyddiau wedi bod lle nad oedd hi'n gallu ymolchi na gwisgo'i hun.

Byddai'n llefain am oriau heb allu egluro pam.

Dydy cyfryngau cymdeithasol ddim yn helpu ac yn rhoi gwedd annaturiol ar fywyd bob dydd, meddai.

"Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi synnwyr ffals i ni o'r hyn sy'n 'normal'," meddai Kerryann Evans.

"Mae'n llawn o fenywod tenau, tlws gyda gwallt a cholur perffaith, a bywyd sy'n ymddangos yn hollol wych.

"Mae'r ofn yna bod pobl yn mynd i droi eu trwynau os ydyn nhw'n gwybod fy mod i'n dioddef o broblemau iechyd meddwl."

Mae mor bwysig i bobl drafod pethau fel gorbryder ac iselder, a chefnogi ei gilydd, meddai, nid bychanu a beirniadu oherwydd nad yw'n 'normal' i ddioddef fel hyn.

"Dylai pobl sy'n agored fel hyn gael eu cymeradwyo am frwydro ymlaen er gwaethaf yr holl rwystrau," meddai Kerryann Evans fyddai ddim wedi breuddwydio rhannu neges am ei gorbryder cyn ymddangos yn y lluniau.

"Oes - mae gen i orbryder. Oes - mae gen i iselder. Ond fi fy hun ydw i o hyd, a dwi'n normal! Mae'n iawn i fod yn fregus, a dangos hynny o dro i dro.

"Ro'n i'n teimlo ei bod hi'n bwysig dangos cymaint dwi wedi dioddef, brwydro, a'i oroesi yn y gobaith y bydd pobl eraill yn yr un cwch yn cael y nerth i siarad yn agored hefyd."

Stori: Llinos Dafydd