麻豆官网首页入口

Lisa Jones: Bywyd gwraig y Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd

Wrth gyhoeddi ym mis Ebrill ei fod yn , fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai'n cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda'i wraig Lisa a'i blant. Fe ddywedodd hefyd fod ei deulu wedi ei helpu trwy ddyddiau tywyll.

Yma mae Lisa Jones, y ddynes sy' wedi bod yn gefn i arweinydd Cymru am bron i naw mlynedd, yn siarad yn agored am ei theulu, ei gwaith, ei r么l fel gwraig y Prif Weinidog, byw gyda chanser, a'u dyfodol fel teulu:

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones

Mewn gwirionedd, rhan fach iawn o fy mywyd ydy bod yn wraig i'r Prif Weinidog. Dydw i ddim wedi bod yn rhan o'r byd gwleidyddol, rydw i wedi naill ai bod adre' gyda'r plant, neu'n gweithio, neu'n cario ymlaen gyda fy mywyd fy hun. Ond rydw i'n ei theimlo hi'n fraint i allu cefnogi Carwyn, a rwy' hefyd wedi cael y fraint o allu mynd i ddigwyddiadau arbennig iawn.

Cyfarfod Carwyn

Tyfais i fyny yn Belfast, Gogledd Iwerddon, ac fe wnes i symud i Gymru yn 1985, pan o'n i'n 18 oed i ddod i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio'r Gyfraith.

Roedd Carwyn yn astudio'r un cwrs yn yr un cyfnod, ond wnaethon ni ddim siarad 芒'n gilydd yn y dair blynedd roedden ni yno. Ddwy flynedd ar 么l i ni raddio, fe wnaethon ni gwrdd eto yng Nghaerdydd, yn nhafarn y Dog and Duck, ac fe ofynnodd Carwyn fi allan. Collodd fy rhif felly roedd hi fis yn ddiweddarach cyn iddo gysylltu eto!

Roeddwn i'n gweithio i'r International Baccalaureate ar y pryd, ac roedd angen bod yn dair-ieithog. Roeddwn i'n siarad Saesneg a Sbaeneg, ac fe ddysgais i dipyn bach o Ffrangeg wrth wneud y swydd. Fe wnes i astudio Gwyddeleg yn yr ysgol, ac roeddwn i'n mynd i fyw at deuluoedd yn ardal y Gaeltacht yng ngorllewin Iwerddon am dair wythnos, yn mynd i'r ysgol a dysgu'r iaith. Mae'r iaith yn dal yndda i os ydw i'n tyrchu'n ddwfn, ond dwi'n fwy tebygol o wybod y gair yn Gymraeg erbyn hyn.

Y ffordd wnes i ddysgu Cymraeg oedd darllen llyfrau fel Sali Mali, Jac y Jwc a Rala Rwdins i'r plant yn y gwely pan oedden nhw'n fach. Mae'n anodd dysgu iaith os nad ydych chi'n ei byw hi.

'Gwisgo fel bocs o Kleenex'

Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael cyfarfod ag Arlywydd Obama a'r Pab Benedict, pan ddaeth ar ymweliad 芒'r Alban, roedd hynny'n brofiad cofiadwy.

Fe gawson ni wahoddiad i Briodas Frenhinol William a Catherine yn 2011. Roedd hi'n hyfryd i gael ein gwahodd ac mi roedd yn achlysur lyfli, ond doedd gen i ddim syniad beth i'w wisgo. Fe ges i wisg werdd wedi ei gwneud i mi gan ddynes o Borthcawl, a phan mae Seren fy merch yn edrych ar y llun mae'n gofyn, "Mam, pam wnes ti wisgo fel bocs o Kleenex i'r briodas frenhinol?"... Dyna ddod 芒 fi n么l lawr i'r ddaear!

Boris a fi

Mae noson seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 yn aros yn y cof. Ro'n i a Carwyn ar y bws gyda Boris Johnson, Alex Salmond, Tessa Jowell, Archesgob Canterbury, Ed Miliband, pennaeth y fyddin a llawer o bobl pwysig... fe glywais i Boris yn dweud ar y radio wedyn y gallech chi fod wedi dechrau gwlad fach gyda'r holl bobl oedd ar y bws!

Ond roedd y gyrrwr druan ar goll yn llwyr. Roedd hi bron yn 8pm a'r seremoni ar fin dechrau a dyna lle roedden ni'n cylchu'r stadiwm. Roedden ni'n gallu gweld yr Orbit Tower yn y stadiwm yn dod yn agosach ac yn agosach, ond yna'n mynd yn bellach ac yn bellach i ffwrdd a Boris yn trio bod yn ddoniol a pheidio cynhyrfu. Ond roedd e'n flin gyda rhywun ar y ff么n ac yn dweud wrth bawb "don't tweet, don't tweet!". Fe wnaethon ni gyrraedd y seremoni o fewn trwch blewyn iddi gychwyn.

Roedd hi'n union fel golygfa o raglen gomedi y 麻豆官网首页入口, 2012, a ro'n i wir yn disgwyl gweld yr actor Hugh Bonneville yn dod ar y bws unrhyw funud.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Carwyn Jones bod ei wraig Lisa a'i deulu wedi ei helpu trwy'r "dyddiau tywyllaf"

Byw gyda chanser a mabwysiadu plant

Ro'n i wedi bod yn briod am flwyddyn, ac o'n ni wedi bod yn Efrog Newydd i ddathlu ein pen-blwydd priodas cyntaf ddiwedd 1995. Ro'n i wedi bod adre' yn Iwerddon dros y Nadolig ac yn teimlo'n flinedig iawn ac yn s芒l ddechrau Ionawr. Roedd fy gum yn gwaedu'n drwm, felly feddylies y byddai'n well i fi fynd i'r Ysgol Ddeintyddol yng Nghaerdydd. Fe es i yno o'r gwaith, a wnes i ddim gadael am chwe wythnos.

Doeddwn i ddim wedi meddwl dim byd am y peth, ond ar 么l profion, fe ddywedon nhw eu bod nhw'n poeni am fy white blood cell count, a'u bod nhw'n meddwl bod lewcemia arna' i. Roedd yn rhaid i fi gael triniaeth yn syth. Pan wnes i ddeffro y bore wedyn, roedd fy mam a fy chwaer wedi dod draw o Belfast, yn sefyll wrth y gwely, a dyna pryd wnes i feddwl, mae hwn yn ddifrifol.

Fe ges i drawsblaniad bone marrow fy mrawd. Mae'n ddoniol i feddwl bod 'na DNA dyn y tu mewn i fi! Ac yn rhyfedd iawn ers y llawdriniaeth, rydw i wedi etifeddu ei alergeddau e i gyd.

Canlyniad yr holl driniaethau ges i ar gyfer y lewcemia, a'r difrod a achoswyd i fi, oedd fy mod i'n methu cael plant. Yn y pen draw fe wnaeth Carwyn a fi benderfynu mabwysiadu. Fe gymerodd hi dair blynedd i fabwysiadu Seren, ac yna fe wnaethon ni wneud cais i fabwysiadu Ruair铆. Roedd hi'n broses hir ac anodd ond fyswn i ddim yn newid dim am y byd.

Dwi yma a fedrai ddim cwyno a dyna pham dwi'n gweithio i elusen Macmillan erbyn hyn. Mae stori canser yn newid, ein ffocws ni ydy helpu pobl i fyw gyda chanser a gan mod i wedi dioddef fy hunan, rwy'n trio rhoi rhywbeth yn 么l.

Efallai o ddiddordeb:

Cyfnodau anodd

Fel mam i ddau o blant, ac yn gweithio fy hun, mae cyfnodau anodd wedi bod. Pan mae Carwyn yn gweithio dramor am dros wythnos, er enghraifft yn America, ti'n colli y pethau bach yna, y p芒r ychwanegol o ddwylo i helpu i gael pawb allan o'r t欧 yn y bore. Mae ganddon ni gath, ci a chwningen a maen nhw i gyd angen sylw hefyd.

Mae 'na achlysuron wedi bod lle roedd Carwyn yn dweud 'dwi angen mynd mas am awr nos Iau... i Wrecsam'! Efallai mai awr o gyfarfod sydd yn Wrecsam, ond ni'n byw ym Mhen-y-bont. Dyna pryd roedd fy llygaid yn rowlio!

Ond roedd hyn yn rhywbeth roedden ni'n ei ddisgwyl pan gymerodd y r么l ac mae'r plant wastad wedi ei adnabod yn ei swydd fel Prif Weinidog neu Gweinidog yn y Cabinet cyn hynny. Dwi yn cofio pan oedd Ruair铆 yn fach, fydde fe ar y ff么n gyda'i dad yn gofyn 'pryd ti n么l Dad?' Roedd hynny'n torri fy nghalon.

Erbyn hyn mae Skype a Facetime yn ein gwneud ni deimlo'n agosach a ry'n ni'n gallu gweld lle mae e yn y byd.

Ond pan mae Carwyn adre' ac ar gael, mae e yna i'r plant, yn gariadus iawn ac yn rhoi llawer o sylw a chyngor iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones

Bywyd tu allan i'r gwaith

Yn 2016, blwyddyn yr etholiad, fe wnes i gynnig i wneud cyflwyniad am Carwyn ar y llwyfan cyn ei araith yng Nghynhadledd y Blaid Lafur. Roedd yn flwyddyn bwysig, ac o'n i am ei gefnogi, ac i bobl gael cipolwg gwahanol ar Carwyn, bod ganddo fe fywyd a theulu y tu allan i'r gwaith.

I ni, mae e'n 诺r ac yn dad. Pan mae ganddo amser, mae'n dwli coginio, gwrando ar gerddoriaeth a mynd 芒'r ci am dro. Fe fydde fe'n pysgota ac mae'n angerddol iawn am bob math o chwaraeon.

Mae 'na gyfnodau tywyll wedi bod, ac i fi fel gwraig i wylio hynny, ac i'r plant, mae wedi bod yn anodd. Dydy Carwyn erioed wedi bod yn ofn gwneud penderfyniadau a chymryd y fflac amdanyn nhw, mae'n rhan o fod yn arweinydd.

Roedd Carwyn a fi wedi trafod pryd y byddai'n gadael y swydd fisoedd yn 么l. Mae naw mlynedd yn amser hir iawn, a thra ei fod yn gymharol ifanc - mae e newydd droi yn 51 oed - mae cyfleoedd iddo wneud pethau eraill. Fe fydd e'n cario 'mlaen ar y meinciau cefn tan ddiwedd y tymor, wrth gwrs, ond mae pethau eraill y bydde fe'n hoffi gwneud.

Mae ganddo lot o apiau ac mae'n dysgu ieithoedd fel Gwyddeleg ac Almaeneg iddo'i hunan, felly lle bynnag mae'n mynd, mae'n gallu cyfathrebu.

Ar hyn o bryd mae e'n dysgu'r wyddor Cyrillic, achos bydde fe'n mwynhau gwneud gradd yn y Clasuron rhyw ddiwrnod.

Mae Carwyn yn berson rhamantus, ac mae e wedi trefnu trip i ni'n dau fynd i Wlad yr I芒 ym mis Hydref, n么l i'r lle wnaethon ni ddywedd茂o 25 mlynedd yn 么l. Mae'r union le, Cafe Paris yn Reykjav铆k, dal yno felly rwy'n edrych ymlaen i fynd yn 么l ac i ail fyw'r profiad.

Dwi'n meddwl ei fod e angen amser nawr i edrych ar 么l ei hunan ac i gael y cydbwysedd iawn rhwng bywyd a gwaith ac i ni gael mwy o amser i wneud pethau fel teulu.