麻豆官网首页入口

M4: Opsiwn rhatach na ffordd liniaru yn 'ddeniadol'

  • Cyhoeddwyd
Twneli Brynglas ar yr M4

Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai dod o hyd i ddewis amgen oedd yn rhatach na ffordd liniaru'r M4 yn "ddeniadol".

Mewn cyfweliad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru dywedodd Mark Drakeford y gallai gefnogi opsiwn arall i'r 'llwybr du' sydd ar hyn o bryd yn cael ei ffafrio gan y llywodraeth.

Byddai'r cynlluniau presennol, allai gostio dros 拢1.4bn, yn golygu adeiladu traffordd newydd o gwmpas Casnewydd i leihau tagfeydd.

Mr Drakeford yw'r unig ymgeisydd hyd yn hyn yn y ras i olynu Carwyn Jones fel prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru.

Roedd yn siarad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru cyn cyhoeddi pecyn o wariant isadeiledd gwerth 拢266m yn y Senedd ddydd Mawrth.

Ymgynghoriad

Ers nifer o flynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwriadu adeiladu traffordd newydd - y 'llwybr du' arfaethedig - er mwyn osgoi tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas.

Ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gyhuddo Mr Jones o daflu amheuon dros y cynllun, gan ddweud nad oedd ganddo deimladau cryf am y ffordd liniaru.

Roedd cynigion eraill yn cynnwys y 'llwybr glas' - uwchraddio ffyrdd eraill o gwmpas Casnewydd - a thwnnel newydd ym Mrynglas.

Cafodd y cyntaf o'r rheiny ei feirniadu gan Carwyn Jones, ac fe wnaeth ymgais y llywodraeth i ystyried twnnel newydd fel opsiwn wynebu protestiadau cyn i weinidogion ddewis y llwybr du.

Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus i'r llwybr du gyhoeddi eu canfyddiadau erbyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mark Drakeford yw Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru

Dywedodd Mr Drakeford y byddai arian oedd wedi'i glustnodi ar gyfer hoff opsiwn Llywodraeth Cymru "ar gael ar gyfer posibiliadau eraill os yw'r ymgynghoriad cyhoeddus lleol yn cynnig ateb gwell a bod hynny wedyn yn dod drwy ystyriaeth y llywodraeth".

"Fi yw gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru. Os oes modd dod o hyd i ateb sydd yn costio llai i ni fe fyddai hynny'n ddeniadol i mi, achos mae wastad pethau eraill y gallwn ni ei wneud gyda'r arian yna," meddai.

"Ond beth dwi wedi'i wneud yw sicrhau, os yw'r cynnig sydd wedi ei roi gerbron yr ymchwiliad gan y llywodraeth yn un sy'n cael ei gymeradwyo gan yr ymchwiliad, eu bod nhw ac eraill yn gwybod ein bod ni mewn sefyllfa i fwrw 'mlaen."

Dywedodd Plaid Cymru fodd bynnag y dylai ACau gael "pleidlais go iawn" ar gynllun ffordd liniaru'r M4 cyn i'r llywodraeth fwrw yn eu blaenau.

"Y disgwyl yw mai ffordd liniaru'r M4 fydd yr ymrwymiad gwariant isadeiledd mwyaf erioed yn hanes y Cynulliad," meddai Adam Price AC.

Fe wnaeth Mr Drakeford ei sylwadau cyn cyhoeddiad yn y Senedd ar sut y bydd 拢266m o arian isadeiledd yn cael ei wario yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.

Mae'n cynnwys 拢60m ar gyfer llwybrau cerdded a beicio, 拢60m i gynlluniau iechyd, 拢30m ar gyfer band eang cyflym iawn, 拢25m i'r diwydiant ceir yng Nglyn Ebwy a 拢15m i ysgolion 芒 ffocws ar y gymuned.