麻豆官网首页入口

Llafur: Huw Irranca-Davies wedi cael 'anogaeth' i sefyll

  • Cyhoeddwyd
Huw Irranca-Davies

Mae'r gweinidog gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies yn dweud ei fod wedi cael "anogaeth frwd" i redeg am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Dywedodd AC Ogwr wrth raglen 麻豆官网首页入口 Wales Live ei fod yn "ystyried" sefyll.

Hyd yn hyn dim ond un ymgeisydd sydd wedi cyhoeddi eu bod eisiau olynu'r Prif Weinidog Carwyn Jones - yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd Mr Jones ei fod yn bwriadu camu o'r neilltu yn yr hydref.

Sgwarnog a'r crwban

Mae angen i ymgeiswyr gael cefnogaeth pump AC Llafur arall er mwyn bod ar y papur pleidleisio.

"Dwi heb wneud penderfyniad eto," meddai Mr Irranca-Davies, gafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 2016.

"Dwi wedi cael anogaeth frwd i sefyll. Dwi'n ystyried y peth. Dwi ddim wedi gwneud penderfyniad eto, ond mae'n ras hir.

"Fe allai hyn fod fel y sgwarnog a'r crwban. Dwi'n enwog am fod yn araf i ddod i benderfyniadau fel hyn.

"Mae fy nheulu'n bwysig, mae fy nghydweithwyr yma yn y Cynulliad yn bwysig, fy mhlaid yn yr etholaeth hefyd.

"Fe wn芒i ddod ati ymhen amser pan dwi wedi cael y trafodaethau yna i gyd.

"Ond rhaid i mi ddweud 'mod i wedi fy annog gan y negeseuon o gefnogaeth ac anogaeth dwi wedi'u cael i sefyll, ond fe wn芒i aros i weld."

Dyw ymgeiswyr posib eraill ar gyfer yr arweinyddiaeth, gan gynnwys Eluned Morgan, Ken Skates, Vaughan Gething a Jeremy Miles, heb gyhoeddi eu bwriad i sefyll eto ai peidio.

Bydd Wales Live yn cael ei darlledu am 22:30 ar 麻豆官网首页入口 One Wales.