Cwestiynu tystiolaeth pennaeth morlyn Bae Abertawe

Ffynhonnell y llun, HOC

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Shorrock yn gwadu ei fod wedi annog y cyngor i dderbyn cymhelliad ariannol
  • Awdur, Elliw Gwawr
  • Swydd, Gohebydd Seneddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae'r 麻豆官网首页入口 yn deall bod cwmni sy'n cael ei redeg gan y g诺r sy'n arwain cais i adeiladu morlyn ym Mae Abertawe wedi cynnig talu am gronfa gymunedol yng Nghernyw er mwyn sicrhau cefnogaeth cyngor lleol i gais i ailagor chwarel leol.

Mae Mark Shorrock, prif weithredwr Tidal Lagoon Power, yn gwadu bod y cwmni wedi cynnig cymhelliad ariannol i gyngor plwyf er mwyn sicrhau cefnogaeth ar gyfer cais cynllunio fyddai'n galluogi ei gwmni i gloddio am greigiau ar gyfer y morlun.

Ond mae cytundeb drafft sydd wedi'i weld gan y 麻豆官网首页入口 yn awgrymu bod Shire Oak Quarries Limited wedi cynnig talu am "gronfa gymunedol" i'r cyngor plwyf yn seiliedig ar faint o greigiau oedd yn cael eu cloddio o Chwarel Dean.

Mae Mr Shorrock yn gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.

Mae gan Mr Shorrock "reolaeth sylweddol" yng nghwmni Shire Oak Quarries Limited.

Mae'r cytundeb, sy'n dyddio o 2015, yn cynnig bod y cyngor yn rhoi "cefnogaeth resymol" i'r cais cynllunio ac na fydden nhw'n "cyflwyno achos yn erbyn cais o'r fath".

Mae'n dweud y gall Shire Oak "roi terfyn ar y cytundeb" os yw'r cyngor plwyf "yn torri'r cymal yma."

Yn 么l clerc Cyngor St Keverne, fe wnaeth cynghorwyr wrthod arwyddo'r cytundeb.

Gwadu'r honiadau

Wrth roi tystiolaeth i aelodau seneddol, dywedodd Mr Shorrock wrth Aelodau Seneddol ei fod wedi prynu'r chwarel gan nad oedd eisiau bod yn "gaeth" i chwareli mawr yn Norwy.

Ond gwadodd ei fod wedi annog y cyngor i dderbyn cymhelliad ariannol er mwyn cefnogi'r cais cynllunio.

Pan ofynnodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies iddo, "oes yna unrhyw wirionedd yn yr honiad bod eich cwmni wedi cynnig cymhelliad ariannol i'r cyngor plwyf?", yr ateb clir gan Mr Shorrock oedd "na".

Mae aelodau seneddol ar y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Ynni nawr wedi ysgrifennu at Mr Shorrock yn galw arno i gynnig eglurhad pellach o'i ateb.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r morlyn yn gallu darparu p诺er i 120,000 o dai pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae Cadeirydd Tidal Lagoon (Swansea Bay) Plc nawr wedi ysgrifennu ar gadeiryddion y pwyllgorau yn awgrymu ei fod yn annhebyg y bydd Chwarel Dean yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y morlun.

Mewn datganiad, dywedodd Keith Clarke: "Fe benderfynodd Bwrdd Tidal Lagoon (Swansea Bay) Plc beth amser yn 么l i ddelio gyda'r gwrthdaro buddiannau oedd yn codi o ddiddordeb personol Mark Shorrock yn Chwarel Dean.

"Does gan y cwmni ei hun ddim diddordeb yn Chwarel Dean nag unrhyw gysylltiad 芒 gweithgaredd masnachol Shire Oak Quarries Ltd.

"Mae'r bwrdd wedi ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgorau dethol yn cadarnhau'r sefyllfa o ran ble bydd y creigiau ar gyfer y cynllun yn dod.

"Rydym yn ymddiried bod yna eglurder llwyr ar fater mae'r bwrdd yn ystyried sydd wedi tynnu sylw yn ddiangen oddi ar gynllun sydd yn holl bwysig i bortffolio'r DU ar gyfer ynni lleol, dibynadwy, carbon isel ac isel ei gost".

Ddydd Mercher dywedodd Mr Shorrock wrth y 麻豆官网首页入口 ei fod yn teimlo bod y defnydd o'r gair "cyhuddo" gan gadeirydd y pwyllgor yn golygu ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le, sef yr hyn mae e'n gwadu.