'Argyfwng' ariannu chweched dosbarth ysgolion Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae toriad o dros 拢20m wedi bod i gyllideb chweched dosbarth ysgolion dros y pum mlynedd diwethaf, yn 么l ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod y gostyngiad yn bennaf o ganlyniad i newidiadau demograffig, a bod mwy yn dewis astudio mewn colegau neu'n dechrau hyfforddiant.

Ond mae cadeirydd llywodraethwyr ysgol uwchradd fwyaf Cymru yn dweud bod y sector mewn argyfwng, ac mae'n galw am fwy o dryloywder yn y modd y mae'n cael ei gyllido.

O 拢113m i 拢92m

Yn 2013-14, y gyllideb ar gyfer adrannau chweched dosbarth oedd 拢113m, ond yn 2018-19 roedd gostyngiad i 拢92m.

Mae'r gyllideb ar gyfer y chweched dosbarth yn cael ei dosbarthu i'r ysgolion trwy awdurdodau lleol, ond mae'n dod o gronfa wahanol i addysg orfodol hyd at 16 oed.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y gostyngiad mewn arian yn deillio o'r ffaith bod llai o bobl 16 i 18 oed yn rhan o'r boblogaeth, ac yn seiliedig ar wybodaeth gan yr awdurdodau am y niferoedd disgwyliedig ar gyrsiau.

Yn 2017 roedd 25,733 o ddisgyblion 16 oed a h欧n mewn ysgolion, o'i gymharu 芒 29,806 yn 2013.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd David Jones o Goleg Cambria bod yr addysg 么l-16 sydd ar gael mewn colegau yn fwy arbenigol

Yn 么l pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun, Mark Jones mae "ystod o heriau yn digwydd o ran ariannu chweched dosbarth".

"Mae cyllidebau wedi crebachu ar draws y sector gyfan, yn ogystal 芒'r chweched dosbarth," meddai.

"Mae'r sefyllfa hefyd o ran disgyblion - niferoedd yn y chweched dosbarth wedi lleihau hefyd.

"Mae'n rhaid i ni gynnig rhyw nifer o gyrsiau 么l-16 safon uwch a chyrsiau galwedigaethol, ac wrth gwrs ni'n gorfod sicrhau bod niferoedd deche gyda ni er mwyn i'r costau rhedeg y cyrsiau hynny fod yn berthnasol yn ariannol.

"Yn y sector Gymraeg yn bennaf mae 'da ni sefyllfa hefyd o ran recriwtio staff ag arbenigedd mewn meysydd prin ac wrth gwrs mae daearyddiaeth yn ein herbyn ychydig bach o ran pellter teithio o ran rhannu cyrsiau 么l-16 gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill hefyd."

'Sector mewn argyfwng'

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer o adrannau chweched dosbarth wedi cau, yn arbennig yn Sir y Fflint a Sir Benfro, ac mae holl adrannau chweched dosbarth ysgolion wedi cau ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Mae'r arian yna wedi ei drosglwyddo i golegau addysg bellach neu rannau eraill o'r sector 么l-16.

Mae gan Ysgol Uwchradd Eglwys Newydd yng Nghaerdydd un o'r adrannau chweched dosbarth mwyaf yng Nghymru, gyda dros 400 o ddisgyblion.

Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr, Joyce Slack, fod y sector mewn "argyfwng".

Ychwanegodd fod diswyddiadau gwirfoddol wedi sicrhau eu bod yn gallu osgoi diswyddo gorfodol yn yr ysgol eleni.

Ond dywedodd bod diffyg tryloywder yngl欧n 芒 chyllid yr holl sector 么l-16.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Joyce Slack fod sector chweched ddosbarth ysgolion mewn "argyfwng"

Mae prif weithredwr Coleg Cambria, David Jones yn dweud nad yw am weld dosbarthiadau chweched yn diflannu o bob ysgol yng Nghymru, ond bod yr addysg 么l-16 sydd ar gael mewn colegau yn fwy arbenigol.

"Mae myfyrwyr sy'n mynd i goleg yn cael cyfle eang, mae'n bwydlen cyrsiau ni yn un eang dros ben - Lefel A, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau - a dwi'n credu mai hwn yw'r gwasanaeth y dylai pobl ddisgwyl yng Nghymru.

"Mae'n paratoi nhw ar gyfer gwaith ac i fynd i'r brifysgol."

Fis diwethaf fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y byddai corff newydd ar gyfer ariannu addysg uwch ac addysg bellach yn gyfrifol hefyd am adrannau chweched ddosbarth ysgolion.