麻豆官网首页入口

Cymru'n dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam i hyfforddi

  • Cyhoeddwyd
cymru'n ymarfer ar y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae t卯m p锚l-droed Cymru wedi bod yn cynnal sesiwn ymarfer agored ar y Cae Ras yn Wrecsam - y tro cyntaf iddyn nhw fod yno ers 2008.

Daeth torf sylweddol i weld y garfan yn ymarfer wrth baratoi i deithio i'r Unol Daleithiau i herio Mecsico yn Pasadena ar 29 Mai.

Daw'r sesiwn wedi i Ryan Giggs gwtogi ei garfan wreiddiol o 32 i lawr i 23 o chwaraewyr.

Ymhlith yr enwau i gael eu gadael allan o'r garfan derfynol mae Hal Robson-Kanu, George Williams ac Adam Matthews.

Roedd Robson-Kanu'n rhan allweddol o garfan Euro 2016 gan sgorio goliau pwysig yn erbyn Slofacia a Gwlad Belg, ond y tymor yma dim ond dwywaith mewn 23 g锚m y llwyddodd i sgorio i'w glwb West Brom wrth iddyn nhw ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hal Robson-Kanu'n dathlu ei g么l yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016

Roedd Cymru eisoes heb wasanaethau Gareth Bale, Ben Woodburn a Danny Ward gan fod Real Madrid yn herio Lerpwl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, a Joe Allen oherwydd anaf.

Doedd James Chester na Neil Taylor yn y garfan chwaith wedi i Aston Villa gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.

Luke Pilling, Regan Poole, Joe Rodon, Cameron Coxe, Dan James a Marley Watkins yw'r chwaraewyr eraill sydd wedi'u torri o'r garfan.

Ond mae'n bosib y bydd pedwar chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf yn Stadiwm Rose Bowl, sef Adam Davies, Chris Maxwell, Matthew Smith a George Thomas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y tro diwethaf i Gymru chwarae g锚m ar y Cae Ras oedd n么l yn 2008, pan lwyddon nhw i drechu Norwy o 3-0

Carfan derfynol Cymru v Mecsico

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Chris Maxwell (Preston North End), Adam Davies (Barnsley).

Amddiffynwyr: Ashley Williams (Everton), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Declan John (Rangers), Connor Roberts (Abertawe), Christopher Mepham (Brentford), Ashley Richards (Caerdydd).

Canol Cae: Lee Evans (Sheffield United), Andy King (Caerl欧r), Ryan Hedges (Barnsley), Aaron Ramsey (Arsenal), Matthew Smith (Manchester City), Joe Ledley (Derby County), George Thomas (Caerl欧r).

Blaenwyr: Sam Vokes (Burnley), Tom Bradshaw (Barnsley), Tom Lawrence (Derby County), David Brooks (Sheffield United), Harry Wilson (Lerpwl).