麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Y Prifardd Aneirin Karadog

  • Cyhoeddwyd
Aneirin Karadog

Aneirin Karadog, y Prifardd a'r rapiwr, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae'r cof yn twyllo dyn, felly anodd dweud. Ond mae gen i gof clir o sefyll ar waelod y grisiau yn ein cartref ym Mhontardawe a chlywed fy rhieni yn siarad Ffrangeg 芒'i gilydd a pheidio 芒 deall gair o'r hyn roedden nhw'n ei ddweud.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Laura Evans yn Ysgol Rhydfelen. Helo os wyt ti'n darllen hwn!! Enw fy ngwraig yw Laura hefyd, ond dyw'r cysylltiad ddim yn mynd yn bellach na hynny. Helo hefyd i ti, wraig annwyl, os wyt ti'n darllen hwn!!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Peidio bod 芒 rheolaeth lwyr o'm faculties o flaen fy merch yn ddiweddar. Penderfynais newid fy arferion wedi hynny.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Pan yn gwylio cyfres Ar y Dibyn ar S4C! Totes emosh man!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cyfres Ar y Dibyn, ble'r oedd pobl yn cystadlu mewn gweithgareddau awyr agored yn brofiad anodd ac emosiynol i'r cystadleuwyr... a'r gwylwyr!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi ewinedd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pen Mynydd Llangyndeyrn. Mae golygfa banoramig wych lle gellir gweld cyfran helaeth iawn o dde-orllewin Cymru o'r G诺yr i'r Preseli ar ddiwrnod braf. Hefyd mae hanes rhyfeddol yn rhan o'r mynydd, a bywyd gwyllt diddorol yno o hyd (dim ond jyst!).

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd sawl noson gyda'r Genod Droog yn deilwng o'r teitl 'noson orau erioed' ond mae'r atgofion a'r manylion yma'n niwlog.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Geek. Diamynedd. Angerddol.

O Archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Hoff lyfr - Ta-Ra-Ta-Ta-Tam (llyfr i blant am dr锚n bach gwyn a gyhoeddwyd gan Y Dref Wen). Mae dewis hoff lyfr bron yn amhosib, ac 'wy'n mwynhau darllen cyfrolau o farddoniaeth gan fwyaf. Ond dyma lyfr sy'n llawn o atgofion melys o'm plentyndod pan welaf y clawr, neu feddwl amdano.

Hoff ffilm - Terminator 2.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Evan Roberts, er mwyn ei holi sut brofiad oedd Diwygiad 1904-05 iddo fe, gan si诺r o fod yfed llawer o de yn ei gwmni.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Hyd yn hyn, fi yw'r unig berson i gael ei gadeirio yng Nghanolfan y Mileniwm...

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Aneirin Gadair Eisteddfod yr Urdd 2005 yng Nghaerdydd. Ers hynny, mae hefyd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau. Gobeithio y bydd Cadeirio am yr eildro yng Nghanolfan y Mileniwm fis Awst, pan ddaw'r Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dechrau gyda gwledd a chynllunio gweddill y diwrnod wrth wledda, gan sicrhau fod yna orig o siesta yn rhan o'r cyfan. Dwi'n barod i wynebu unrhyw beth ar 么l cael siesta.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Gwyddbwyll gan y Tystion. Un o'r rhesymau a'm gyrrodd i geisio rapio. Ac mae'n diwn a hanner.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Tystion yn perfformio ac yn cynhyrchu cerddoriaeth rhwng 1996 a 2002

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Bwyd m么r, paella, crymbl afal a rhiwbob a chwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Donald Trump, ar yr amod fy mod i'n cael newid n么l i fod yn fi ar ddiwedd y cyfryw ddiwrnod.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rufus Mufasa