麻豆官网首页入口

Galw ar Lywodraeth Japan i gefnu ar gynllun Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai Wylfa Newydd yn weithredol am 60 mlynedd pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Japan yn galw arnynt i beidio 芒 chefnogi gorsaf b诺er Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Mae bron i 6,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb gan Pobl Atal Wylfa B (PAWB), gafodd ei gyflwyno i Weinyddiaeth Masnach a Diwydiant Rhyngwladol Japan ddydd Llun.

Mae'r ymgyrchwyr yn Japan i gynnal trafodaethau gydag aelodau o weinyddiaethau Materion Tramor, Economi, Cyllid a Masnach a Diwydiant y wlad.

Bydd y gr诺p hefyd yn ymweld 芒'r ardal gafodd ei effeithio gan drychineb niwclear Fukushima yn 2011.

Mae adroddiadau bod bwrdd Hitachi - perchnogion cwmni Horizon, sydd y tu 么l i gynllun Wylfa Newydd - yn cwrdd yn Tokyo i bleidleisio ar gynnig o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau'n gynharach yn y mis bod Llywodraeth y DU am gynnig 拢13.3bn o gymorth ariannol i helpu Hitachi i adeiladu'r orsaf b诺er.

'Ansicrwydd'

Dywedodd un o ymgyrchwyr PAWB, Meilyr Tomos, bod yr adroddiadau hynny yn cefnogi eu hachos, gan ddangos bod p诺er niwclear yn hen ffasiwn a drud.

"Mae'n gynllun sydd angen dwy lywodraeth i'w chynnal, felly does 'na ddim sicrwydd am unrhyw beth ar hyn o bryd," meddai.

"Dyw o ddim yn fenter fasnachol. Rydych chi angen gwerth am arian, a dyw hynny ddim yn rhywbeth y gall niwclear ei ddarparu - mae'n rhy ddrud o lawer."

Bydd dyfodol yr orsaf b诺er yn ddibynnol ar amcangyfrifon ar gyfer cost y prosiect, fydd ddim yn cael eu cwblhau nes diwedd y flwyddyn.

Mae ansicrwydd hefyd yngl欧n 芒'r pris y bydd yr orsaf yn gwerthu trydan.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU gefnogi pris o tua 拢15 yn llai na'r 拢92.50 ar gyfer pob awr megawat gafodd ei gytuno yn achos gorsaf niwclear Hinkley Point C.