麻豆官网首页入口

GIG Cymru'n gwario miliynau ar 'ddatrysiad tymor byr'

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae GIG Cymru yn gwario miliynau ar geisio lleihau rhestrau aros yn hytrach na mynd i'r afael 芒 diffyg meddygon arbenigol, yn 么l Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA).

Mae ffigyrau'n dangos bod byrddau iechyd Cymru wedi gwario 拢29m y llynedd ar driniaethau yn y sector breifat a thalu ymgynghorwyr am weithio oriau ychwanegol - bron dwbl y ffigwr yn 2014-15, sef 拢15.7m

Ym mis Awst fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi 拢50m i leihau rhestrau aros.

Dywedodd hefyd bod nifer yr ymgynghorwyr sy'n cael eu cyflogi ar ei lefel uchaf erioed.

'Llenwi bwlch'

Mae byrddau iechyd yn talu ymgynghorwyr am weithio oriau ychwanegol i leihau amseroedd aros, ac mae ffigyrau'n dangos bod y gost i'r GIG yng Nghymru wedi codi o 拢8.7m yn 2014/2015 i 拢11.5m yn 2017/2018.

Fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan 麻豆官网首页入口 Cymru hefyd ddatgelu bod y gost o dalu i bobl gael triniaethau yn y sector preifat wedi codi o 拢7m i 拢17m.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cyngor Iechyd Cymunedol ei bod yn bwysig i gleifion gael yr un ymgynghorydd trwy gydol eu triniaeth

Dywedodd Dr Trevor Pickersgill - niwrolegydd yng Nghaerdydd sy'n cynrychioli meddygon ymgynghorol ar fwrdd BMA Cymru - bod y gwasanaeth iechyd yn euog o fabwysiadu cynlluniau tymor byr er mwyn taclo amseroedd aros.

Ychwanegodd y byddai'n well i'r llywodraeth wario eu harian ar gyflogi mwy o staff parhaol.

Dywedodd Dr Paul Worthington o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd bod strategaeth Llywodraeth Cymru o bosib yn annog ymateb adweitheddol.

"Maen nhw'n defnyddio'r arian i lenwi bwlch," meddai.

"Mae swm sylweddol yn mynd yn syth i'r sector preifat - gall hynny atal recriwtio ymgynghorwyr hir dymor."

Galw am gysondeb

Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Iechyd Cymunedol, Clare Jenkins ei bod yn cytuno gyda'r gwariant yn y tymor byr, ond nad yw hynny'n ddatrysiad delfrydol i gleifion chwaith.

"Does dim byd yn curo cael y gweithlu cywir mewn lle i alluogi i bobl gael eu trin yn amserol, a chael cysondeb trwy eu gofal," meddai.

"Rydych chi eisiau gweld yr un ymgynghorydd cyn eich triniaeth, i wneud y driniaeth, ac ar 么l hynny hefyd am ei fod yn rhoi teimlad o ddiogelwch i gleifion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething nad yw am ymddiheuro am helpu pobl sydd mewn poen

Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi 拢50m i helpu byrddau iechyd i ostwng amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau, therapi a diagnosis.

Dywedodd y llywodraeth bod nifer y bobl sy'n disgwyl dros 36 wythnos wedi gostwng o 10,000 ers hynny, "i'r safle gorau ers Mawrth 2014".

Ychwanegodd bod amseroedd aros ar gyfer therapi ar ei isaf ers saith mlynedd, ac ar gyfer diagnosis ar ei isaf ers 2009.

'Mwy o ymgynghorwyr'

Mae nifer yr ymgynghorwyr mewn ysbytai ar ei lefel uchaf erioed hefyd yn 么l y llywodraeth, gyda 2,466 wedi'u cyflogi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething nad yw am ymddiheuro am helpu pobl sydd mewn poen.

"Rydyn ni'n gwario arian mewn ffordd sydd ddim yn ddelfrydol yn y tymor hir, ond allwch chi ddim dweud wrth bobl eu bod yn gorfod aros am hirach am ein bod yn gorfod mynd i'r afael 芒'r heriau tymor hir," meddai.