Osian Wyn Owen yn ennill cadair Eisteddfod yr Urdd 2018

Prifardd Eisteddfod Yr Urdd 2018 ydy Osian Wyn Owen o'r Felinheli.

Mae'r gadair yn cael ei chyflwyno i'r prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell, a'r testun eleni oedd 'Bannau'.

Mae Osian yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Y Felinheli ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Mae'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor lle mae'n gobeithio graddio fis Gorffennaf ac yna dilyn cwrs meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o fis Medi.

Ef wnaeth o gipio'r drydedd wobr yng nghystadleuaeth Coron yr Urdd y llynedd.

Ar hyn o bryd mae'n mynychu gwersi cynganeddu yn Galeri Caernarfon dan diwtoriaeth y prifardd Rhys Iorwerth.

Ffynhonnell y llun, S4c

Enillodd y bardd ei gadair gyntaf yn Nhachwedd y llynedd, a chipiodd y dwbl, y goron a'r gadair, yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan fis Mawrth eleni.

Wrth gyfeirio at destun y gerdd, Bannau, dywedodd Osian: "Nes i ddechrau sgwennu cyn o'n i'n gwybod beth oedd y testun, a digwydd bod, oedd o'n ffitio."

Dywedodd wrth Cymru Fyw nad yw'n gwybod yn union o ble daeth yr ysbrydoliaeth i ddechrau sgwennu yn y lle cyntaf.

"'Dio ddim yn rhywbeth sydd yn y teulu - does 'na neb yn y teulu yn sgwennu - ond mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn reddfol i mi ers 'mod i'n fach. Dwi'n cofio ennill cystadleuaeth sgwennu yn yr ysgol fach, ac mae o wedi parhau," meddai.

"Yn bendant mae'n fodd i mi ymlacio ond fyswn i'n mynd o fy nghof os fyswn i ddim yn sgwennu.

"Os 'di rhywbeth yn digwydd, rwy'n meddwl 'reit mae'n rhaid i mi ddehongli hwn trwy ryw ffordd arall' ac mae llenyddiaeth yn rhoi'r cyfle yna i mi wneud.

"Mae o'n llesol i'r iechyd meddwl."

Ffynhonnell y llun, S4c

Disgrifiad o'r llun, Gruffudd Antur yn traddodi ei feirniadaeth

Gruffudd Antur a Mari Lisa oedd y beirniaid, a ddyfarnodd Lowri Ffion Havard yn drydydd a Carwyn Eckley yn ail.

Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Gruffudd Antur bod y gerdd yn "ymwneud 芒 pherthynas" a bod y bardd wedi llwyddo "i fynegi ei hun a chyffwrdd ni fel beirniaid yn effeithiol mewn delweddau a chyffelybiaethau".

Ychwanegodd bod y gerdd yn "drawiadol" ac yn "fwy caboledig ei mynegiant a'i chrefft", a bod y beirniaid yn "gwbl gyt没n" ei fod yn haeddu ennill.

Gwilym Morgan sydd wedi dylunio a chreu'r gadair, sydd wedi ei gwneud o ddarn o bren sy'n 1,000 o flynyddoedd oed.