Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2018

Mae hi'n ddiwrnod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Maesyfed a Brycheiniog 2018.

Daeth y glaw ond wnaeth hynny ddim stopio'r torfeydd rhag heidio i'r maes yn Llanelwedd.

Disgrifiad o'r llun, Sioned Erin Hughes o Ben Ll欧n yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch roedd hi'n absennol o'r seremoni ddydd Gwener. Cafodd ei stori fer 'Du a Gwyn' ganmoliaeth arbennig gyda'r beirniaid Catrin Beard a Lleucu Roberts.
Disgrifiad o'r llun, Derbyniwyd y goron ar ran Erin yn y seremoni, gan yr Athro Gerwyn Williams o Brifysgol Bangor, wnaeth ei hysbrydoli i gystadlu eleni.
Disgrifiad o'r llun, Daeth cawod drom o law ben bore, wrth i'r cystadleuwyr a'u teuluoedd gyrraedd y maes
Disgrifiad o'r llun, Ymbarels a chotiau glaw oedd i'w gweld ymhobman, cyn i'r glaw gilio ac i'r haul dorri trwyddo
Disgrifiad o'r llun, Mae angen help Mam a Dad ar Catrin o Aelwyd yr Ynys, Ynys M么n, gyda'r delyn ar 么l dod o'r llwyfan yn rhagbrawf Unawd Telyn bl. 10 a dan 19
Disgrifiad o'r llun, Yr actor Richard Lynch, sy'n chwarae rhan Garry Monk ar Pobol y Cwm, ydy Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ddydd Gwener
Disgrifiad o'r llun, Dewi a'i fam Fflur yn mwynhau'r haul, wedi teithio am y dydd o Gaerffili i'r Eisteddfod
Disgrifiad o'r llun, Heblaw eich bod chi'n cystadlu ar y llwyfan, chewch chi ddim mynd heibio Ffion Haf a Jordan. Maen nhw'n gweithio gefn llwyfan trwy'r wythnos, a dyma'r ddau wyneb olaf y mae'r cystadleuwyr yn eu cyfarfod cyn mynd trwy'r twnel at y llwyfan
Disgrifiad o'r llun, Gobeithio fod y map wedi helpu'r cystadleuydd yma i ffeindio ei rhagbrawf - mae'r cello yna'n edrych yn drwm!
Disgrifiad o'r llun, Efallai nad oes yna wartheg yng nghylch y gwartheg yr wythnos hon, fel sydd yna wythnos y Sioe Frenhinol, ond mae'n lle braf a thawel i fwynhau cinio
Disgrifiad o'r llun, Efa, Bleddyn ac Esyllt yn mwynhau'r ffair

Mwy o'r Urdd: