Llywodraeth Cymru'n cynnig 拢200m at forlyn Bae Abertawe

Ffynhonnell y llun, PA

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cynnig 拢200m i Lywodraeth y DU ei roi tuag at forlyn llanw Bae Abertawe.

Mewn llythyr, dywedodd Mr Jones wrth Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, Greg Clark y byddai hynny'n galluogi'r prosiect i "symud yn ei flaen".

Byddai'r cynnig yn golygu bod Llywodraeth Cymru'n cynnig ecwiti neu fenthyciad tuag at y datblygiad 拢1.3bn, gydag amod o gefnogaeth hefyd gan San Steffan.

Flwyddyn a hanner ers i adroddiad argymell y dylid bwrw ymlaen 芒'r cynllun, dyw Llywodraeth y DU dal ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol ar ddyfodol y morlyn llanw.

Daw ar 么l i'r 麻豆官网首页入口 weld e-bost gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn mynegi pryder am gost y morlyn, a dweud bod "y ffigyrau yn ofnadwy".

'Ansicrwydd'

Mae llythyr Mr Jones yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnig yr un pris ar gyfer y trydan o'r morlyn ac y gwnaethon nhw ar gyfer gorsaf niwclear newydd Hinkley Point C.

Petaen nhw'n gwneud hynny, meddai, gallai llywodraethau Cymru a'r DU wneud "cynnig ar y cyd" er mwyn gwireddu'r cynllun.

"Yn gyffredinol, fy nghynnig fyddai i'r cynnig gynnwys ymrwymiad o ecwiti neu fenthyciad o 拢200m gan Lywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo i gytundeb ar yr un termau a'r hynny gafodd ei gynnig i Hinkley Point C (拢92.50/MWH ym mhrisiau 2012 dros 35 mlynedd o ddiwrnod y comisiynu)," meddai Mr Jones.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r ddwy lywodraeth gyflwyno cynnig "llawn a therfynol" i Tidal Lagoon Power, y cwmni sy'n gyfrifol am y datblygiad, er mwyn dod 芒'r "ansicrwydd i ben".

Disgrifiad o'r llun, Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Carwyn Jones y dylai Llywodraeth y DU gynnig yr un pris i forlyn Bae Abertawe ac y gwnaethon nhw i atomfa Hinkley Point C

Bwriad TLP yw adeiladu morlyn gyda 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd yn Abertawe, fyddai'n darparu digon o drydan ar gyfer 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.

Roedd hefyd yn cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer prosiectau llawer mwy yn y dyfodol, gyda'r cwmni yn bwriadu adeiladu pum morlyn arall ar hyd arfordir Cymru a Lloegr os oedd un Abertawe'n profi'n llwyddiant.

Mae cadeirydd TLP wedi mynnu bod y dechnoleg yn gystadleuol 芒 ph诺er niwclear a systemau ynni adnewyddol eraill o safbwynt ariannol.

Ond mae adroddiadau y bydd y cynllun yn cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.

'Gwerth am arian'

Ddydd Mawrth daeth i'r amlwg fod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi mynegi pryder am gost y morlyn.

Mewn e-bost sydd wedi'i weld gan 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd Mr Cairns: "Does dim penderfyniad wedi'i gymryd eto ac rydw i wedi bod o blaid y cynllun o'r dechrau, ond mae'r ffigyrau yn ofnadwy.

"Dwywaith pris niwclear, heb ddisgwyliad o wneud unrhyw arbedion sylweddol. Rydyn ni'n siarad 芒 datblygwr eraill sydd 芒 chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru ar raglen y Post Cyntaf na fyddai "neb yn diolch i ni os bydden ni'n cefnogi unrhyw gynllun sydd ddim yn rhoi gwerth arian i'r trethdalwyr".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alun Cairns bod datblygwr eraill "芒 chynlluniau tebyg, sy'n costio llawer yn llai"

Ond mynnodd cadeirydd TLP, Keith Clarke bod angen ystyried ynni llanw yn rhan o gymysgedd o ffynonellau ynni at y dyfodol.

"Gallwn ni fod yn cynhyrchu ynni o fewn pedair blynedd. Mae gyda ni ganiat芒d cynllunio sy'n gyfredol yn Abertawe," meddai.

"Os ydy'r llywodraeth wir eisiau edrych ar hyn, mae angen strategaeth hir dymor."