麻豆官网首页入口

Diffyg cynnydd Betsi Cadwaladr yn 'digio' Vaughan Gething

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Betsi Cadwaladr

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud wrth ACau ei fod yn "ddig" am ddiffyg cynnydd o fewn bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig ers tair blynedd.

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei osod dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ym Mehefin 2015 oherwydd .

Er gwelliannau mewn rhai meysydd, dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth fod "heriau sylweddol yn parhau".

Dywedodd ei fod yn pryderu am ddirywiad ym mherfformiad y bwrdd o ran amseroedd aros, gofal sydd heb ei drefnu o flaen llaw, a threfniadau cynllunio a rheoli ariannol.

Mewn datganiad i ACau dywedodd Mr Gething fod gwelliannau mewn rhai meysydd, gan gynnwys cwrdd 芒 thargedau iechyd meddwl ac ailstrwythuro'r t卯m iechyd meddwl.

'Diffyg eglurder parhaus'

Dywedodd Mr Gething fod un o'r prif resymau dros osod y bwrdd dan fesurau arbennig - gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd - wedi ei israddio fel mater o bryder yn gynharach eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd fod "heriau sylweddol" i'r bwrdd iechyd

Ond ychwanegodd: "Er gwaethaf y buddsoddiad a chynnydd mewn rhai meysydd allweddol mae heriau sylweddol yn parhau.

"Yn y 12 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi codi lefel yr ymyrraeth yn ariannol ac o ran rhai elfennau perfformiad oherwydd pryderon sylweddol ynghylch amseroedd aros rhwng cyfeirio [cleifion] a thriniaethau, gofal heb ei drefnu, a chynllunio a rheoli ariannol.

"Rwy'n bryderus iawn gyda'r dirywiad mewn perfformiad yn y meysydd yma, ac rwy'n ddig yn gyffredinol gyda chyflymdra cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn cerrig milltir a osodwyd ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn galendr yma, a'r diffyg eglurder parhaus ynghylch eu cynlluniau at y dyfodol."

Ychwanegodd Mr Gething fod adroddiad diweddar ac adolygiad y cyfrifwyr "ill dau wedi amlygu pryderon sy'n parhau ynghylch trefniadau llywodraethu, arweiniad clinigol ac ailgynllunio gwasanaethau".

'Ddim yn dirnad gwelliannau'

Bydd Mark Polin, prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, yn .

Dywedodd AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar: "Rwy'n gresynu nad ydi llawer o gleifion yng ngogledd Cymru'n dirnad gwelliannau, ac mae'r ystadegau'n dweud cyfrolau.

"Dyma fwrdd iechyd gafodd ei osod dan fesurau arbennig dair blynedd yn 么l, ac eto yn y cyfnod hwnnw mae wedi gwaethygu yn nhermau perfformiad cyrraedd targed pedair awr yr adran frys, yn nhermau'r targed 12 awr, ac mae amseroedd rhwng cyfeirio a thrin [cleifion] wedi gwaethygu o ran y targed 26 wythnos."

Dywedodd AC Ynys M么n a llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wrth Mr Gething: "Mae'n dair blynedd bellach ers gosod y mesurau arbennig ac mae eich datganiad yn eithaf agored.... mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod dros y tair blynedd yna."