Diffyg cynnydd Betsi Cadwaladr yn 'digio' Vaughan Gething

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud wrth ACau ei fod yn "ddig" am ddiffyg cynnydd o fewn bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig ers tair blynedd.

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei osod dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ym Mehefin 2015 oherwydd pryderon sylweddol am ofal cleifion.

Er gwelliannau mewn rhai meysydd, dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd ddydd Mawrth fod "heriau sylweddol yn parhau".

Dywedodd ei fod yn pryderu am ddirywiad ym mherfformiad y bwrdd o ran amseroedd aros, gofal sydd heb ei drefnu o flaen llaw, a threfniadau cynllunio a rheoli ariannol.

Mewn datganiad i ACau dywedodd Mr Gething fod gwelliannau mewn rhai meysydd, gan gynnwys cwrdd 芒 thargedau iechyd meddwl ac ailstrwythuro'r t卯m iechyd meddwl.

'Diffyg eglurder parhaus'

Dywedodd Mr Gething fod un o'r prif resymau dros osod y bwrdd dan fesurau arbennig - gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd - wedi ei israddio fel mater o bryder yn gynharach eleni.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd fod "heriau sylweddol" i'r bwrdd iechyd

Ond ychwanegodd: "Er gwaethaf y buddsoddiad a chynnydd mewn rhai meysydd allweddol mae heriau sylweddol yn parhau.

"Yn y 12 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi codi lefel yr ymyrraeth yn ariannol ac o ran rhai elfennau perfformiad oherwydd pryderon sylweddol ynghylch amseroedd aros rhwng cyfeirio [cleifion] a thriniaethau, gofal heb ei drefnu, a chynllunio a rheoli ariannol.

"Rwy'n bryderus iawn gyda'r dirywiad mewn perfformiad yn y meysydd yma, ac rwy'n ddig yn gyffredinol gyda chyflymdra cynnydd y bwrdd iechyd yn erbyn cerrig milltir a osodwyd ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn galendr yma, a'r diffyg eglurder parhaus ynghylch eu cynlluniau at y dyfodol."

Ychwanegodd Mr Gething fod adroddiad diweddar HASCAS ac adolygiad y cyfrifwyr Deloitte "ill dau wedi amlygu pryderon sy'n parhau ynghylch trefniadau llywodraethu, arweiniad clinigol ac ailgynllunio gwasanaethau".

'Ddim yn dirnad gwelliannau'

Bydd Mark Polin, prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, yn cymryd drosodd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Medi.

Dywedodd AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar: "Rwy'n gresynu nad ydi llawer o gleifion yng ngogledd Cymru'n dirnad gwelliannau, ac mae'r ystadegau'n dweud cyfrolau.

"Dyma fwrdd iechyd gafodd ei osod dan fesurau arbennig dair blynedd yn 么l, ac eto yn y cyfnod hwnnw mae wedi gwaethygu yn nhermau perfformiad cyrraedd targed pedair awr yr adran frys, yn nhermau'r targed 12 awr, ac mae amseroedd rhwng cyfeirio a thrin [cleifion] wedi gwaethygu o ran y targed 26 wythnos."

Dywedodd AC Ynys M么n a llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wrth Mr Gething: "Mae'n dair blynedd bellach ers gosod y mesurau arbennig ac mae eich datganiad yn eithaf agored.... mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod dros y tair blynedd yna."