'Diystyru' pryderon Cymru am gytundebau masnach cig oen

  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Brexit 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae Llywodraeth Seland Newydd wedi diystyru pryderon o Gymru ynghylch effaith posib cytundeb masnach ar ddiwydiant cig oen y wlad yn dilyn Brexit.

Mewn cyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd gweinidog masnach y wlad, David Parker y byddai cytundeb masnach rydd yn arwain at "fuddion sylweddol i'r ddwy wlad".

Bu'n ymateb i rybuddion y gallai cytundeb o'r fath "ddifetha" y diwydiant cig oen yng Nghymru.

Dywedodd y corff sy'n hybu'r diwydiant Cymreig y gallai cytundebau gyda gwledydd sydd 芒 safonau cynhyrchu is fod yn niweidiol i ffermwyr cig oen.

Codi bwganod?

Ar 么l gadael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019, bwriad Theresa May yw cyrraedd cytundebau masnach rhydd gyda gwledydd y tu hwnt i'r cyfandir.

Mae Llywodraeth y DU wedi s么n am y posibilrwydd o daro bargeinion masnach gyda gwledydd fel China, India, Awstralia a Seland Newydd.

Ond mae gwleidyddion a chynrychiolwyr blaenllaw'r diwydiant cig oen wedi codi pryder ynghylch yr effaith bosib ar ffermwyr defaid petai cytundeb masnach rydd yn caniat谩u i lawer iawn o gig o Seland Newydd ddod i mewn i'r wlad.

"Mewn gwirionedd nid oes gynnon ni fwy o dir yn Seland Newydd er mwyn gallu datblygu," meddai David Parker.

"Felly, rwy'n amau nad yw rhai o'r pryderon hynny, er fy mod yn si诺r eu bod nhw'n cael eu teimlo o ddifrif, mor wael ag y mae pobl yn meddwl."

Cig oen o Seland Newydd

  • Caiff tua 80% o'r holl gig oen sy'n cael ei gynhyrchu yn Seland Newydd bob blwyddyn ei allforio;
  • Mae'r rhan fwyaf o gig oen sy'n cael ei fewnforio i'r DU yn dod o Seland Newydd;
  • Mae gan Seland Newydd gwota o 228,000 tunnell o gig oen maen nhw'n gallu ei werthu i'r Undeb Ewropeadd heb dalu tollau.

Dywedodd John Richards o Hybu Cig Cymru (HCC): "I fod yn deg dydyn nhw ddim wedi cwrdd 芒'r cwota hwnnw dros y degawd ddiwethaf.

"Rwy'n credu ar hyn o bryd bod nhw'n cyrraedd tua 70% o'r cwota.

"A yw e'n realistig y byddan nhw'n cynyddu'r cynhyrchiad er mwyn llenwi'r cwota hynny dros y blynyddoedd nesaf? Na."

Ond mae Mr Richards yn gwadu bod y diwydiant yn codi bwganod achos os fydd cytundebau masnach gyda gwledydd sydd 芒 safonau cynhyrchu gwahanol, fel Seland Newydd, "yna gallai fod yn niweidiol iawn i'r sector".

Ar y llaw arall, fe ddywedodd bod "yna gyfleoedd mawr i gael" i'r diwydiant cig oen Cymreig allu gwerthu mewn i farchnadoedd newydd, megis Japan, China, a'r Dwyrain Canol.

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae 92% o allforion cig oen Cymru'n cael eu gwerthu i'r Undeb Ewropeaidd

Un o broblemau mwyaf y diwydiant yng Nghymru yw pa mor hir mae'r cynnyrch yn gallu eistedd ar y silff.

Tra bod cig oen Seland Newydd yn cynnal am rhwng 60-110 diwrnod, mae'n rhaid bwyta'r cynnyrch o Gymru o fewn 35 diwrnod.

'Meddwl yn galetach'

"Mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi mynd ati i weithio arno, ond gyda Brexit ar y gorwel, mae'n debyg y bydd yn rhaid i ni feddwl yn galetach am hyn oll," meddai Helen Davies o'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Defaid.

O ran y farchnad leol, mae'r ffermwyr yn derbyn pris da am eu cynnyrch oherwydd y gostyngiad yn y bunt a'r ffaith ein bod ni dal yn mwynhau mynediad lawn i farchnad yr Undeb.

Ond gyda 92% o allforion cig oen Cymru'n cael eu gwerthu i'r Undeb Ewropeaidd, mae yna bryder ynghylch dyfodol y diwydiant os nad yw cig oen yn gallu parhau i gael ei werthu'n ddirwystr i'r cyfandir.

Mae dymuniad Theresa May o gyrraedd cytundeb masnach rydd di-d芒l gyda'r UE "yn gadarnhaol iawn", meddai John Richards o HCC.

"Byddai rhywfaint o d芒p coch ychwanegol oherwydd yn amlwg ni fyddwn yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ond cyn belled a bod dim gormod o hynny, yna ni fydd y diwydiant yn cael ei amharu'n ormodol."

Bydd mwy am y stori hon ar Wales Live; 6 Mehefin am 22:30 ar 麻豆官网首页入口1.